Mae mudiad ymgyrchu wedi beirniadu cynlluniau gan gwmni Horizon i feddiannu tir ychwanegol yn Ynys Môn er mwyn gwneud iawn am ddinistrio darn o dir gwlyb gwerthfawr wrth godi atomfa newydd yn Wylfa.

“Fyddan nhw byth yn wyrdd,” meddai Dylan Morgan o fudiad PAWB – Pobol Atal Wylfa B – wrth golwg360. “Maen nhw’n mynd i ddinistrio cynefinoedd.”

“Ymdrech yw hyn iddyn nhw ymddangos bod nhw’n poeni am yr amgylchedd, pan maen nhw’n gwybod yn iawn eu bod yn mynd i ddinistrio talp o dir am byth, gyda’u concrit â’u dau adweithydd enfawr, a storfa gwastraff niwclear fydd yna am o leiaf canrif a hanner,” meddai Dylan Morgan.

Y cynlluniau

Fe fydd yr ymgynghori’n dod i ben fory ar gynlluniau Horizon i gael yr hawl i fynd â rhagor o dir – peth ohono er mwyn gwella’r briffordd rhwng Y Fali a Wylfa a pheth i wneud iawn am ddifrodi Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig sydd yng nghysgod yr atomfa bresennol.

Yn eu dogfennau, mae Horizon yn dweud y byddan nhw’n “creu neu wella” corsydd a’u bod yn ysytyried nifer o safleoedd “rhwng Cemaes ac Amlwch ac i’r gogledd o Langefni”.

Mae’r cynllun tir yn rhan o’r drefn o wneud cais am Orchymyn Cydsyniad Datblygu – y cam nesa’ yn y broses o ddatblygu Wylfa B – yn ôl y cwmni, maen nhw’n agos iawn at gwblhau’r cais hwnnw.

Ymgynghori

Mae Dylan Morgan wedi cyhuddo Horizon o osgoi cyfarfodydd cyhoeddus “fel y pla”.

“Dydyn nhw ddim eisiau wynebu cwestiynau gan lot o bobol o’u blaenau, mewn sefyllfa gyhoeddus,” meddai.

“Ar hyd y blynyddoedd â phob ymgynghori maen nhw wedi gwneud, maen nhw jest wedi ei wneud trwy roi dogfennau mewn llyfrgelloedd, ac ambell i sesiwn galw heibio.”

Yn ystod mis cyntaf y cyfnod ymgynghori mi wnaeth Horizon gynnal wyth sesiwn galw heibio yn siroedd Môn, Gwynedd a Chonwy.

Mae golwg360 wedi gofyn i Horizon am ymateb.