Wrth i’r llysoedd ym Mhacistan wahardd gorsafoedd radio a sianeli teledu rhag hyrwyddo Dydd San Ffolant, mae myfyrwyr hefyd wedi cynnal rali yn Lahore i ddangos eu gwrthwynebiad i ddiwrnod nawddsant y cariadon.

Cynhaliodd y myfyrwyr, sy’n perthyn i grŵp Islami Jamiat Talaba, y rali ar gampws Prifysgol y Pwnjab.

Mae’r dathliad gorllewinol wedi dod yn boblogaidd yn y wlad ers nifer o flynyddoedd a’r llynedd, roedd gwaharddiad ar hyrwyddo’r diwrnod mewn print neu ar ffurfiau electronig. Ond mae’r gwaharddiad hwnnw bellach wedi’i ymestyn i’r cyfryngau radio a theledu hefyd.

Mae protestwyr yn honni bod y dathliadau’n “wrth-Islamaidd” ac yn un o arferion di-chwaeth y Gorllewin.