Mae ffrind i Ifor Glyn, Cymro sydd wedi’i daro’n wael yn Bangkok, wedi dweud wrth golwg360 fod ei sefyllfa bresennol “yn dorcalonnus”.

Mae’r gweithiwr cymdeithasol ym maes cyffuriau yn dioddef o niwmonia ar ôl bod yn dathlu’r Flwyddyn Newydd yng Ngwlad Thai.  Ac, yn ôl Gwil Roberts, sydd wedi sefydlu ymgyrch i godi arian i’w helpu i ddod adre’, mae meddygon wedi darganfod nam yn ei ben ar ôl iddo gael sgan.

Mae’r sefyllfa’n waeth fyth ar ôl i gwmni yswiriant y teulu wrthod talu am ambiwlans awyr i’w gludo adre’ i dderbyn triniaeth – mae’n Brif Weithredwr mudiad i helpu dioddefwyr cyffuriau yn Abertawe ond yn hanu o Flaenau Ffestiniog.

“Dydi o ddim mewn cyflwr i hedfan [mewn awyren gyffredin], ac mae o’n wael iawn, iawn,” meddai Gwil Roberts wrth golwg360. “Mae’n dorcalonnus.”

Yr ymgyrch

Yn ôl meddygon, fe fyddai’n costio £37,000 i gael ambiwlans awyr i gludo Ifor Glyn adre’ i dderbyn triniaeth ac fe ddywedodd Gwil Roberts ei fod e a nifer o ffrindiau eraill y teulu’n awyddus i’w helpu.

“Os ydi’r teulu’n mynd i lawr y trywydd o gael ambiwlans awyr i ddod ag Ifor yn ôl i’r wlad yma, mae’n mynd i gostio £37,000 – dyna’r pris ydan ni wedi’i gael yn cwôt.

“Mae o wedi bod allan yno ers dros chwech wythnos ac mae’i frawd o wedi bod allan yng Ngwlad Thai, felly maen nhw wedi gwario rhai miloedd ar westai a hedfan yn ôl ac ymlaen.”

Yn ôl Gwil Roberts, mae Ifor Glyn “wedi talu am yswiriant i’w warchod o tra bod o ar ei wyliau”, ond dydy’r cwmni yswiriant “ddim wedi gwneud dim i helpu’r teulu nac Ifor.”

“Mae’r teulu wedi cyrraedd pen eu tennyn ac maen nhw isio Ifor yn ôl yn y wlad yma i gael gofal ac i weld os fedrwn ni ei gael o i wella. I wneud hynny, mae angen ambiwlans awyr, yn nhyb meddygon yng Ngwlad Thai.”

“Y gofal meddygol gorau posib”

Dywedodd Gwil Roberts fod nyrs o wledydd Prydain yn hedfan i Wlad Thai ddiwedd yr wythnos hon, yn y gobaith y bydd Ifor Glyn yn cael dod adref i dderbyn triniaeth. Ond “dydi hynny ddim yn edrych yn debygol, yn sydyn iawn, iawn,” meddai Gwil Roberts.

“Mae’r teulu’n awyddus iddo fo ddod nôl i Brydain i fod mewn ysbyty ym Mhrydain neu yng Nghymru fel bo nhw’n gallu cael gofal a chefnogaeth teulu a ffrindiau a’r gofal meddygol gorau posib.”

Erbyn amser cinio ddydd Mercher, roedd yr ymgyrch wedi croesi £3,000 mewn 24 awr, gyda 106 o gyfranwyr.

“Mae’r teulu’n hynod, hynod ddiolchgar am y caredigrwydd, ac maen nhw’n awyddus i ddiolch yn fawr iawn am y gefnogaeth,” meddai Gwil Roberts.