Fe glywodd rheithgor fod chef yn y Cymoedd wedi taflu llond dwrn o bowdwr tsili i wyneb cwsmer mewn dadl tros safon bwyd.

Mae perchennog bwyty Indiaidd o Donypandy yn y Rhondda wedi ei gyhuddo o ymosodd gan achosi niwed corfforol i ddyn lleol o’r enw David Evans.

Mae Kamrul Islam o’r Prince of Bengal yn gwadu’r cyhuddiad gan ddweud ei fod wedi gweithredu i’w amddiffyn ei hun gan feddwl bod David Evans am ymosod arno.

Lluniau cylch cyfyng

Fe welodd y rheithgor yn Llys y Goron Merthyr luniau teledu cylch cyfyng o David Evans yn codi o’r bwrdd i ddilyn Kamrul Islam am y gegin ac wedyn cwmwl coch wrth i’r tsili gael ei daflu.

Yn ôl David Evans, roedd y boen yn “ddychrynllyd” tra oedd Kamrul Islam yn dweud ei fod yntau wedi “dychryn yn ofnadwy”.

Roedd y cyfan wedi dechrau pan gwynodd David Evans a’i wraig Micelle bod y cig yn eu cyrri yn “wydn, rwberllyd a gloyw” ac yn blasu o baraffin.