Mae’r canwr, Elton John, yn rhoi’r gorau i deithio’r byd.

Mae disgwyl datganiad ffurfiol gan y diddanwr 70 oed yn ddiweddarach heddiw, ond mae adroddiadau ar y we eisoes yn trafod ei benderfyniad.

Fe ddaw hyn lai na blwyddyn ers iddo orfod gohirio cyfres o sioeau wedi iddo gael ei daro’n wael gan haint.

Yn ystod y cyfnod hwnnw, fe aeth yn sâl ar y llwyfan yn Santiago, Chile, ac fe fu’n rhaid iddo dreulio dwy noson yn yr adran gofal dwys yn yr ysbyty.