Dreigiau 33–17 Bordeaux Begles

Rhoddodd y Dreigiau lygedyn o obaith i’w hunain o gyrraedd wyth olaf Cwpan Her Ewrop gyda buddugoliaeth bwynt bonws yn erbyn Bordeaux-Begles ar Rodney Parade brynhawn Sadwrn.

Mae’r canlyniad yn ddigon i’w rhoi yn ail yn nhabl grŵp 1 wedi chwe gêm ond bydd yn rhaid iddynt aros i’r grwpiau eraill i gyd orffen cyn darganfod a fydd hynny’n ddigon i sicrhau lle iddynt yn y rownd go-gynderfynol.

Er i Ben Volavola gigio’r ymwelwyr ar y blaen yn y munudau cyntaf, y Dreigiau a oedd ar y blaen ar yr egwyl diolch i Elliot Dee gydag unig gais yr hanner, 5-3 y sgôr wrth droi.

Wedi hanner cyntaf cymharol ddistaw fe fywiogodd pethau gyda phedwar cais yn hanner cyntaf yr ail hanner.

Cory Hill a’r Dreigiau a gafodd y cyntaf cyn i Fa’asui Fuatai a Jules Gimbert daro nôl i roi Boredaux ar y blaen.

Wnaeth hi ddim aros felly’n hir cyn i Ashton Hewitt sgorio trydydd y Cymry, 19-17 y sgôr wedi trosiad Gavin Henson gyda chwarter y gêm yn weddill.

Rhoddodd cais Lloyd Fairbrother bwynt bonws i’r Dreigiau wedi hynny cyn i gais hwyr Pat Howard roi’r fuddugoliaeth tu hwnt i unrhyw amheuaeth.

Mae’r fuddugoliaeth a’r pwynt bonws yn codi’r Dreigiau dros y Ffrancwyr i’r ail safle yng ngrŵp 1 ond bydd yn rhaid i’’r Cymry aros am ganlyniadau’r grwpiau eraill i gyd cyn darganfod a fydd hynny’n ddigon I aros yn y gystadleuaeth.

.

Dreigiau

Ceisiau: Elliot Dee 24’ Cory Hill 46’ Ashton Hewitt 60’, Lloyd Fairbrother 64’, Pat Howard 78’

Trosiadau: Gavin Henson 47’, 60’, Dorian Jones 65’, 79’

.

Bordeaux Begles

Ceisiau: Fa’asui Fuatai 54’, Jules Gimbert 58’

Trosiadau: Ben Volavola 56’, Christian Schoeman 59’

Cic Gosb: Ben Volavola 4’