Mae llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig, Angela Burns wedi rhybuddio bod y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru “ar y dibyn”, yn dilyn cyhoeddi’r ffigurau iechyd diweddaraf.

Yn ôl y ffigurau, mae nifer y bobol sy’n ymweld ag adrannau brys ar gynnydd, er bod Llywodraeth Cymru wedi cynyddu eu buddsoddiad o 25% er mwyn mynd i’r afael ag effeithiau’r gaeaf ar gleifion.

Roedd cynnydd yn y gwariant ar wasanaethau i’r henoed fyw’n annibynnol, o £50 miliwn yn 2014-15 i £60 miliwn yn 2016-17.

Roedd 3.5% yn fwy o bobol wedi ymweld ag adrannau brys rhwng Tachwedd 2016 a Mawrth 2017 o’i gymharu â’r un cyfnod rhwng Tachwedd 2014 a Mawrth 2015. Roedd y cynnydd ymhlith pobol dros 75 oed yn 4.4% rhwng 2014-15 a 2016-17.

Mae 8,000 yn llai o bobol wedi cysylltu â gwasanaeth NHS Direct dros y tair blynedd diwethaf, ac fe fu cynnydd o 4.4% yn yr un cyfnod yn nifer y bobol dros 75 oed sy’n ymweld ag adrannau brys.

Roedd y cynnydd ymhlith pobol o bob oedran oedd yn cael eu derbyn fel cleifion mewnol i ysbytai Cymru’n 7.8% yn 2016-17.

Ac mae’r ffigurau hefyd yn dangos na fu digon o ostyngiad yn nifer y gwlâu sy’n cael eu llenwi mewn ysbytai – i lawr i 87.54% y gaeaf diwethaf o’i gymharu ag 87.7% yn 2014-15.

‘Argyfwng’

Wrth ymateb i’r ffigurau, dywedodd llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig, Angela Burns: “Er gwaethaf ymdrechion gorau ein staff yn y Gwasanaeth Iechyd sy’n gweithio’n galed, mae data’n dangos bod Llywodraeth Cymru’n llywodraethu dros wasanaeth iechyd sydd ar y dibyn.

“Fel sy’n amlwg o’r argyfwng ar hyn o bryd yn ein hadrannau brys, mae’n amlwg nad yw gweinidogion Llafur yn cynnwys meddygon teulu yn eu cynllunio wrth gefn gan fod mwy a mwy o gleifion yn mynd i adrannau brys fel man cychwyn ar gyfer eu gofal.

“Mae’r ffaith fod galwadau i NHS Direct yn gostwng wrth i ymweliadau ag adrannau brys gynyddu yn dangos bod y cyhoedd wedi colli ffydd yn y gwasanaeth a bod Llywodraeth Cymru’n methu cefnogi cleifion i ddewis yn ddoeth wrth geisio gofal.”

Ychwanegodd y byddai’n codi’r mater yn y Senedd ym Mae Caerdydd yr wythnos nesaf, gan fod gan benaethiaid y Gwasanaeth Iechyd “lawer o atebion i’w rhoi”.