Mae Llywodraeth Prydain yn wynebu brwydr seneddol galed i gyflawni ei chynlluniau i leihau nifer yr Aelodau Seneddol o 650 i 600.

Er bod gweinidogion wedi cadarnhau eu bod am fwrw ymlaen â’r diwygiadau, mae Llafur eisoes wedi cyhoeddi y bydd yn ceisio’u rhwystro.

Ar ôl etholiad 2015, roedd disgwyl y byddai ad-drefnu sylweddol wedi digwydd erbyn yr etholiad a oedd i fod i ddigwydd yn 2020.

Gydag etholiad arall wedi ei ymladd ar yr hen etholaethau yn y cyfamser, aeth y cynllun hwnnw i’r gwellt, ac mae amheuaeth bellach a fydd y senedd yn fodlon pasio mesur o’r fath.

Bwriad y Torïaid yw cael 600 o etholaethau, a’r rheini gyda niferoedd gweddol gyfartal o etholwyr, heb yr hyn sy’n cael ei weld fel amrywiaeth ormodol rhwng etholaethau a’i gilydd ar hyn o bryd.

Byddai gwireddu’r cynlluniau yn golygu mantais etholiadol i’r Torïaid o gymharu â’r drefn bresennol, a byddai hefyd yn golygu lleihau nifer Aelodau Seneddol Cymru o 40 i 29.

Gwrthryfel Torïaidd?

Yn ogystal â gwrthwynebiad Llafur, mae’r Llywodraeth hefyd yn wynebu gwrthryfel gan ASau Torïaidd mainc gefn. Mae un, Bill Wiggin AS Gogledd Swydd Henffordd, eisoes wedi rhybuddio y bydd hi’n “anodd iawn” i’r Llywodraeth basio’r mesur.

Mae partneriaid y Llywodraeth, y DUP, hefyd yn gwrthwynebu’r cynlluniau.

Mae llawer am ddibynnu ar amseriad yr etholiad cyffredinol nesaf hefyd.

Os bydd etholiad arall yn y flwyddyn neu ddwy nesaf, bydd yn rhaid iddo gael ei ymladd ar y ffiniau presennol oherwydd yr amser y byddai’n ei gymryd i unrhyw newidiadau ddod i rym.