Mae pryder am ddiogelwch Cristnogion yn India ar ôl nifer o ymosodiadau.

Fe roddoddLlywodraeth India orchymyn i daleithiau unigol gael rhagor o drefniadau diogelwch tros gyfnod y Nadolig.

Mae’r cymunedau Cristnogol yn India yn cynnwys llawer yn Mryniau Khasia yng ngogledd-ddwyrain y wlad, lle’r oedd cenhadon Cymraeg yn weithgar.

Rhybudd rhag dathlu’r Nadolig

Fe fu ymosodiad ar offeiriaid ac addolwyr Pabyddol yn nhalaith Madhyar Pradesh yng nghanol India ac roedd un mudiad Hindwaidd hefyd wedi rhybuddio pobol rhag cynnal dathliadau Nadolig.

Mae’r ofnau wedi cynyddu am anoddefgarwch crefyddol yn India ers i blaid Hindwaidd ddod i rym yn 2014 – Hindwaid yw mwyafrif poblogaeth y wlad.

Fe fu ymosodiadau ar gymunedau Mwslemaidd ac, yn awr, mae rhai arweinwyr Crisgtnogol yn pryderu y gallai’r sylw droi atyn nhw.