Mae Stryd Fawr Abertawe ynghau heno yn dilyn adroddiadau bod unigolyn wedi cael ei drywanu.

Yn ôl adroddiadau lleol, fe ddigwyddodd yr ymosodiad yn swyddfa cwmni tacsis Station Cabs yn y ddinas nos Sadwrn (Rhagfyr 23).

Dydy’r heddlu na’r gwasanaeth ambiwlans ddim yn fodlon cadarnhau’r digwyddiad ar hyn o bryd.

Mae’r cwmni tacsis wedi gwrthod gwneud sylw, ond fe ddywedodd llefarydd fod y digwyddiad yn “mynd rhagddo”.

Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran Heddlu’r De: “Ar hyn o bryd, nid oes gwybodaeth ar gael.”