Mae mudiad Alcohol Concern Cymru yn datgelu y bydd cynllun i osod isafswm ar bris alcohol yn effeithio fwyaf ar siopau yn hytrach na thafarnau.

Mae eu hymchwil yn atgyfnerthu adroddiad gan Brifysgol Sheffield sy’n nodi mai pobol sy’n yfed “symiau mawr” o alcohol fydd yn profi’r newid mwyaf.

Bydd cynrychiolwyr o’r elusen yn cyflwyno tystiolaeth gerbron Pwyllgor Iechyd y Cynulliad heddiw wrth iddyn nhw fwrw ymlaen â’r cynllun i osod isafswm o 50c ar bob uned o alcohol.

Alcohol rhad

Yn ôl ymchwil y mudiad, mae’r rhan fwyaf o dafarnau’n gwerthu alcohol am bris drutach na 50c yr uned yn barod.

Ond mae rhai siopau’n gwerthu fodca am cyn lleied â 38c yr uned, rhai gwinoedd am 27c yr uned a photeli seidr am 18c yr uned.

“Yn ôl yn 2010, rhybuddiodd un o Bwyllgorau’r Cynulliad fod alcohol rhad yr archfarchnadoedd yn bygwth dyfodol tafarnau cymunedol,” meddai Andrew Misell, cyfarwyddwr Alcohol Concern Cymru.

“Pan holon ni dafarnwyr Cymru am osod isfabris o 50c yr uned, roedd 77% o’i blaid ac roedd 94% yn credu bod alcohol rhad yr archfarchnadoedd yn tanseilio eu busnes,” meddai.

“Fydd yr isafbris ddim yn datrys holl broblemau pob tafarnwr dros nos, ond trwy gau’r bwlch rhwng prisiau’r dafarn a rhai’r siopau i raddau, bydd yn gorfodi cynhyrchwyr a gwerthwyr i gystadlu mwy ar safon y profiad gallan nhw ei gynnig, a llai ar bris.

“A dyna gyfle euraidd i’r tafarndai gorau fanteisio arno.”