Bydd darlith gyhoeddus yn cael ei chynnal ar Ragfyr 12 a fydd yn taflu goleuni ar ddirgelwch safle archeolegol yn Ynys Môn.

Yn 2016, mi wnaeth archeolegwyr gynnal cloddiad yn Lôn Fron ger Llangefni, gyda’r nod o ganfod lleoliad mynwent o’r Oesoedd Tywyll.

Ond, wrth balu trwy’r pridd daeth i’r amlwg nad dyna oedd y safle.

Bellach, wedi blwyddyn o astudio samplau ac arteffactau mae arbenigwyr yn credu eu bod wedi datrys y dirgelwch.

Manylion

Bydd y ddarlith yn cael ei chynnal am 7.30yh yng Nghanolfan Ebeneser, Llangefni; ac mi fydd dan ofal Ymddiriedolaeth Archeolegol  Gwynedd (YAG).

Mae mynediad i’r digwyddiad am ddim ac mi fydd te a choffi ar gael wedi’r sgwrs. Bydd y sgwrs yn cael ei draddodi trwy gyfrwng y Saesneg.