Mae o leiaf 13 o bobol wedi marw ac mae dau o bobol ar goll ar ôl i gwch pysgota daro yn erbyn llong danwydd cyn suddo.

Dywedodd yr awdurdodau fod saith o bobol wedi cael eu hachub, a bod capten y cwch pysgota ymhlith y rhai sy’n dal ar goll.

Digwyddodd y gwrthdrawiad oddi ar arfordir dinas Incheon.

Mae’r gwaith o ddod o hyd i oroeswyr ar y gweill, ac mae’r awdurdodau wedi dechrau holi criw’r llong i ddarganfod beth oedd achos y gwrthdrawiad.