Mae’r heddlu’n parhau i ymchwilio i wrthdrawiad rhwng hofrennydd ac awyren yn Swydd Buckingham, ar ôl i bedwar o bobol gael eu lladd.

Dau beilot a dau deithiwr yw’r pedwar, ond dydy eu manylion ddim wedi cael eu cyhoeddi gan yr heddlu hyd yn hyn.

Mae disgwyl i’r ymchwiliad ar y safle ger plasty Waddesdon barhau tan o leiaf ddydd Llun ac yn ôl yr heddlu, mae’n rhy gynnar eto i ddweud beth oedd wedi achosi’r gwrthdrawiad.

Digwyddodd y gwrthdrawiad ger plasty Waddesdon, sef hen gartref teulu Rothschild.

 

Mae lle i gredu bod y cerbydau wedi dod o Barc Awyr Wycombe, tua ugain milltir i ffwrdd, a bod dau deithiwr ym mhob un.

Awyren

Mae lle i gredu mai awyren Cessna 152 a gafodd ei hadeiladu yn 1982 oedd yn y gwrthdrawiad.

Roedd wedi hedfan bron i 14,000 o filltiroedd erbyn mis Mai eleni, ac fe gafodd ei difrodi mewn gwrthdrawiad yng Nghernyw yn 1993.

Bryd hynny, dywedodd y peilot mai ei fai e oedd y gwrthdrawiad, am ei fod e wedi gwneud camgymeriad a’i fod yn ddi-brofiad.