Ffrainc fydd yn cynnal pencampwriaeth Cwpan Rygbi’r Byd yn 2023.

Roedden nhw’n cystadlu yn erbyn Lloegr a De Affrica am y fraint o gynnal cystadleuaeth fwya’r byd rygbi.

Daeth argymhelliad yn dilyn arolwg annibynnol bythefnos yn ôl mai De Affrica ddylai gynnal y gystadleuaeth, ond cafodd Ffrainc eu dewis yn dilyn pleidlais yn Llundain heddiw.

Enillodd Ffrainc 18 pleidlais, De Affrica 13 ac Iwerddon wyth yn y rownd gyntaf, ac fe enillodd Ffrainc yr ail bleidlais o 24 i 15 yn erbyn De Affrica.

Byddan nhw’n cynnal y gystadleuaeth am yr ail waith, ar ôl ei chroesawu yno yn 2007.

Bydd y gystadleuaeth yn 2023 yn cyd-daro â dau ganmlwyddiant geni rygbi yn ysgol fonedd Rugby yn Lloegr, a hwn fydd y degfed tro iddi gael ei chynnal.

De Affrica enillodd y gwpan yn 1995 ar ôl cyfnod yn yr anialwch yn sgil aparteid.

Dywedodd llefarydd ar ran Undeb Rygbi De Affrica eu bod nhw’n “siomedig dros ben” ynghylch y cyhoeddiad, tra bod Undeb Rygbi Iwerddon wedi “llongyfarch Ffrainc yn gynnes”.