Mae Heddlu’r De yn ymchwilio ar ôl i ddyn cael ei ladd wedi iddo gael ei daro gan sawl cerbyd ar yr M4.

Mae’r draffordd wedi agor unwaith eto rhwng cyffordd 35 (Pencoed) a chyffordd 36 (Sarn) yn dilyn y digwyddiad ger Pen-y-bont ar Ogwr toc ar ôl 9 o’r gloch neithiwr.

Bu farw’r dyn yn y fan a’r lle.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth neu â delweddau o’r gwrthdrawiad gysylltu â’r heddlu ar 101.