Mae perchnogion sŵ yng ngogledd Ceredigion wedi eu cythruddo ar ôl i gath wyllt a ddihangodd bythefnos yn ôl gael ei saethu’n farw ar orchymyn y cyngor lleol.

Maen nhw’n mynnu nad oedd y lyncs Ewrasaidd fenywaidd 18 mis oed, a oedd ddwywaith cymaint â chath ddof, yn achosi unrhyw fath o berygl i bobl.

Roedd Cyngor Ceredigion wedi penderfynu difa’r anifail gwyllt ar ôl iddi gael ei gweld o gwmpas lle’r oedd pobl yn byw, gan eu bod o’r farn fod y perygl wedi cynyddu.

Yn ôl perchnogion y sŵ, Borth Wild Animal Kingdom ger Aberystwyth, fodd bynnag, roedd y cyngor wedi rhoi pwysau arnyn nhw o’r cychwyn i adael i saethwyr ddifa’r gath.

Mewn datganiad dywedodd llefarydd ar ran y sŵ:

“Nid ein penderfyniad ni oedd ei lladd a wnaethon ni ddim cytuno o gwbl na chymryd rhan yn y weithred o saethu’n cath ifanc. Rydym wedi torri’n calonnau ac wedi’n cythruddo fod hyn wedi digwydd.”

‘Colli cyfle’

Yn ôl y perchnogion, collwyd cyfle i ddal Lillith y gath ddeuddydd yn ôl wrth iddi gysgu o dan garafan mewn parc carafannau wedi cau.

“Pan aethom yno, roedd y gath mewn llecyn caeedig o dan y garafan a’r cyfan oedd angen i ni ei wneud oedd rhoi rhwyd o amgylch yr unig fwlch agored,” meddai’r llefarydd.

“Ond roedd un o swyddogion y cyngor yn mynnu bod yn rhaid iddo gael tynnu ei llun a’i hadnabod yn swyddogol cyn gadael inni fynd yn agos ati.

“Fe lithrodd a syrthio, gan ddychryn y gath a pheri iddi ddianc oddiyno dros y caeau.

“Er inni ddal ati i geisio ei dal â chewyll a rhwydi, mynnodd y cyngor roi gorchymyn i ladd, ac o fewn 24 awr roedd hi wedi marw.”

Mewn datganiad a gafodd ei rannu gan y Cynghorydd Ceredig Davies ar Facebook, dywed y cyngor mai er mwyn diogelu’r cyhoedd y gwnaethon nhw weithredu fel hyn:

“Cafwyd cyngor ychwanegol brynhawn dydd Gwener, 10 Tachwedd, gan filfeddyg arbenigol fod y perygl i les y cyhoedd wedi codi berygl cymedrol i berygl llym yn sgil methiant parhaus y sŵ i ddal i gath.

“Roedd diogelwch y cyhoedd yn holl bwysig, ac felly unwaith roedd y gath wedi crwydro i ardal boblog o’r gymuned roedd angen gweithredu ar frys.”