Mae teyrngedau wedi eu rhoi i feiciwr modur 26 oed fu farw yn dilyn gwrthdrawiad â char yn Abertawe brynhawn dydd Gwener.

Bu farw Stephen Coombs o Bontardawe yn dilyn y digwyddiad ar ffordd A4067, pan darodd yn erbyn Fiat Punto oedd yn teithio i’r cyfeiriad arall.

Mewn datganiad drwy law Heddlu’r De, dywedodd ei deulu eu bod nhw “y tu hwnt i fod wedi torri eu calonnau”.

Mab, brawd, ŵyr, partner a ffrind

“Roedd e’n ddyn ifanc rhyfeddol, yn fab, brawd ac ŵyr anhygoel, partner ffyddlon a ffrind gwych i gynifer o bobol.

“Mae e wedi cael cryn effaith ar fywydau cynifer o bobol a fe oedd yr un y byddai pawb yn troi ato pe bai ganddyn nhw broblem neu pe bai angen help arnyn nhw.

“Roedd e’n ofalgar a chariadus a byth yn brin o hygs i roi gwybod i bobol beth roedd e’n ei feddwl ohonyn nhw.

“Roedd e’n angerddol am bopeth roedd e’n ei wneud ac wedi rhoi 100% i bopeth a wnaeth.”

Mae’r teulu wedi diolch i’r gwasanaethau brys ac i bawb oedd wedi cynnig cymorth iddo yn dilyn y gwrthdrawiad.