Mae’r syniad o greu ’mamwlad’ i Iddewon yn y rhan o’r byd sy’n cael ei alw’n ‘Israel’ heddiw, yn dal i rannu pobol, gan mlynedd i’r diwrnod ers i’r cynllun gael ei gynnig am y tro cyntaf erioed.

Dogfen yn melynu yn y Llyfrgell Brydeinig yn Llundain ydi ‘Datganiad Balfour’ erbyn hyn, ond mae digwyddiadau yn cael eu cynnal yn Israel ac yn nhiroedd y Palesteiniaid yr wythnos hon, er mwyn nodi canrif ers ei llunio ar Dachwedd 2, 1917.

Dim ond 67 o eiriau a dorrwyd gan aelod o gabinet Llywodraeth Prydain ar y pryd, a hynny yn dilyn trafodaethau rhwng gwleidyddion San Steffan yng nghanol a Seionistiaid oedd am weld gwladwriaeth Iddewig.

Awdur y datganiad oedd yr Arglwydd Arthur Balfour, Ysgrifennydd Tramor Prydain, ac fe’i hanfonodd at yr Arglwydd Lionel Walter Rothschild, ac mae’n addo cefnogaeth y llywodraeth yn San Steffan i’r ymdrech i sefydlu mamwlad i’r Iddew.

Roedd y gefnogaeth honno, fodd bynnag, yn amodol ar y ffaith na fyddai hawliau sifil na chrefyddol cymunedau eraill ym Mhalesteina’n cael eu gwasgu na’u peryglu.

Roedd y datganiad yn sail i’r Mandad ar Balesteina a gafodd ei awdurdodi yn 1920 gan Gynghrair y Cenhedloedd.

Yn ystod y degawdau wedi hynny, fe gynyddodd nifer yr Iddewon a fudodd i Balesteina i fyw. A chyda hynny, fe fu tensiwn rhyngddyn nhw a’r boblogaeth Arabaidd.