Mae arweinydd Catalwnia ym Mrwsel heddiw lle mae disgwyl iddo wneud datganiad ymysg honiadau y gallai fod yn ceisio am loches wleidyddol yng Ngwlad Belg.

 

Mae erlynwyr Sbaen wedi cyhoeddi y byddan nhw’n dwyn cyhuddiadau o annog gwrthryfel yn erbyn Carles Puigdemont ac arweinwyr Catalanaidd eraill.

 

Mae Gwlad Belg yn wlad sy’n derbyn ceisiadau am loches gan ddinasyddion yr Undeb Ewropeaidd, ond nid yw’r honiadau wedi’u cadarnhau hyd yn hyn.

 

Etholiadau

 

Yr wythnos diwethaf mi wnaeth Llywodraeth Catalwnia basio cynnig i gyhoeddi annibyniaeth o Sbaen.

 

Ond ers hynny mae Llywodraeth Sbaen wedi diddymu Senedd Catalwnia gan alw am etholiadau brys yno ar Ragfyr 21.

 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Catalwnia (ANC) wedi dweud na allai’r etholiadau hynny gael eu hystyried yn gwbl ddemocrataidd am eu bod wedi’u “galw’n anghyfreithlon gan y llywodraeth ym Madrid” gan ychwanegu fod dau o’u gweithredwyr yn y carchar yn sgil cyhuddiadau o annog gwrthryfel gan gynnwys arweinydd ANC, Jordi Sanchez.

 

Ond mae eu datganiad hefyd yn dweud fod angen paratoi strategaeth i geisio cael “buddugoliaeth heb ei wrthwynebu bydd yn cadarnhau’r Weriniaeth.”