Mae arweinydd honedig mudiad asgell dde eithafol sydd â chysylltiadau â Chymru wedi cael ei gyhuddo o gynllwynio i lofruddio aelod seneddol Llafur.

Fe fydd Christopher Lythgoe, 31 oed, o Warrington, Swydd Caer, yn ymddangos yn Llys Ynadon Westminster heddiw.

Fe gafodd ei arestio ddiwedd mis Medi ar amheuaeth o fod yn aelod o’r mudiad anghyfreithlon, National Action, ynghyd â dau ddyn o Abertawe.

Fe gawson nhw eu rhyddhau a dydyn nhw ddim ymhlith y pedwar o ddynion eraill a fydd yn y llys ar gyhuddiad o fod yn aelodau o’r mudiad.

Pedwaar arall yn y doc

Mae un o’r pedwar,  Jack Renshaw o Skelmersdale, Swydd Caerhirfryn, wedi cael ei gyhuddo o fygythiadau i ladd ac o fwriadu cynnal gweithredoedd brawychol.

Mae’r cyhuddiad yn erbyn Christopher Lythgoe’n ymwneud â bygythiad i ladd yr AS Llafur, Rosie Cooper o Orllewin Caerhirfryn.