Dylan Iorwerth sy’n edrych ar obeithion y Blaid Lafur ar ar ôl yr etholiadau…

Os ydi Gordon Brown dan fwy o bwysau ar ôl Etholiadau Ewrop, mae’n bosib fod Rhodri Morgan yn gryfach nag erioed.

Wrth weld chwalfa’r Blaid Lafur mewn etholaethau ar hyd a lled Cymru, mae’n bosib iawn y bydd yna ragor yn galw arno i beidio ag ymddeol.

Hyd yn oed cyn yr etholiadau, roedd yr AC Huw Lewis wedi gofyn am hynny – efallai oherwydd ei fod yn gweld ei obeithion ef ei hun o’i ddilyn ym lleihau – ond fe fydd ofn bellach yn sbarduno rhagor i wneud yr un peth.

Heb Rhodri Morgan, fe fyddan nhw heb un o’r unig ddau wleidydd gwirioneddol enwog sydd ganddyn nhw – Peter Hain ydi’r llall – ac yn dibynnu’n llwyr ar ddelwedd y blaid Brydeinig.

Ond efallai nad oes rhaid iddyn nhw boeni. Mae’r ymgyrch Ewropeaidd yn dangos problem fawr arall y pleidiau mawr, a Llafur yn arbennig. Does ganddyn nhw ddim arian – a gyda’r sgandal tros lwfansau, fe fydd pobol yn llai parod i roi.

Dyna un rheswm pam nad oedd yna unrhyw ymgyrchu o werth ynglyn ag Ewrop. Doedd hyd yn oed y cyn-ASE Eluned Morgan ddim yn gwybod beth oedd neges ei phlaid ac roedd hi’n cyfadde’ nad oes peirianwaith ar ôl.

Fydd Llafur ddim yn gallu fforddio etholiad am arweinydd Cymreig – mae’n bosib iawn y bydd Rhodri yn aros.