Tommie Collins ar Ventoux
Mae Tommie Collins wedi bod yn seiclo i fyny mynydd uchaf Provence…

Ar y 9fed o Awst 2011 mi wnes ddathlu fy mhen-blwydd priodas arian.

Doedd dim awydd parti ar y wraig, ond roedd ganddi awydd mynd i Dubrovnik.

Beth am Provence, gofynnais? Mae’n ddigon tebyg – ac fe alla’i fynd â’r beic a seiclo Ventoux? Pam lai, meddai hi?

Mae seiclo’n boblogaidd iawn yn Ewrop; yn enwedig yn Ffrainc, Yr Eidal, Iseldiroedd a Gwlad Belg. Ac os ydych chi’n gwylio’r  Tour de France yn gyson, bydd yr enwau Alpe d’ Huez, Col de Galiber, Col de Tourmalet a Ventoux yn eithaf cyfarwydd.

Mae seiclo’r mynyddoedd yma yn uchelgais i filoedd o amaturaidd fel fi.

Roeddwn i’n ddigon ffodus i seiclo rhai o’r uchod yn 2006, gan ddechrau yn Llyn Geneva a gorffen ar gopa Alpe d’ Huez.

Ond doeddwn i erioed wedi seiclo’r Ventoux. Mae agosáu at hanner cant yn gwneud i rywun sylweddoli bod bywyd yn fyr, ac mae angen i ni gyflawni’n gobeithion  gyn gynted â phosib.

Mae tair ffordd o seiclo Ventoux, sef  cychwyn yn Sault (y ffordd hiraf ond hawsaf) cychwyn yn Malaucene (yr un pellter ac o Bedoin ond ddim mor serth) neu o gyfeiriad Bedoin. Yr olaf yw’r ffordd y mae’r Tour yn ei ddilyn.

Mae copa Ventoux yn 22 cilometr; 1902m; â graddiant o 9% ar gyfartaledd o Bedoin. 13.6 milltir i’r Cymro.

Roeddwn i wedi hedfan i Provence â’r beic mewn bag ar yr awyren (oedd yn boen) ddydd Mercher, a dydd Gwener oedd diwrnod yr her fawr.

Mi wnes i seiclo o Malaucene i Bedoin dros y Col de Madeline sydd 500m uwchben lefel y môr.

Dim ond cynhesu’r coes oedd hyn, ac wedyn i ffwrdd a fi.  I wneud pethau’n anoddach yn seicolegol mae carreg cilometr ar ochr y ffordd, gan ddangos pa mor serth yw pob cilometr.

Roedd y 3km cyntaf yn hawdd, ond ar ôl troi i’r chwith ar ôl pump km mae’n gwaethygu.  O 7km ymlaen tydi’r graddiant byth yn disgyn yn is na 7%.

Edrychais i ddim yn ôl o gwbl – na chwaith rhoi’r gorau i bedalu nes cyrraedd y copa. Fy nghyflymder i drwy’r goedwig oedd 4.8 m.y.a. ar gyfartaledd.

Fe gyrhaeddais i mewn 2 awr a 18 munud, sy’n amser digon parchus. Y record gan y beicwyr proffesiynol ydy 55.51 munud gan Iban Mayo o Wlad y Basg yn 2004.

Roedd hi fel ffair ar y copa: beicwyr yn tynnu llunia, ac mae’r olygfa’n  syfrdanol.  Mi wnes i ffonio’r wraig, a dweud bod y profiad yn wych. Roeddwn i wedi dioddef, ond pwy fyddai ddim? Mae pawb yn dioddef ar y Ventoux.

Gall unrhyw un seiclo’r Ventoux – gyda thipyn o ymarfer. Ac mae gen i fwy o barch i sêr y byd seiclo rŵan, ar ôl bod drwy’r felin fy hun…. y Pyrenees amdani flwyddyn nesaf!