Hywel Wyn Edwards, trefnydd yr Eisteddfod Genedlaethol, sy’n trafod datblygiadau diweddaraf yr ŵyl eleni…

Rydan ni newydd roi ffurflen archebu fflagiau ar ein gwefan – ewch i www.eisteddfod.org.uk a dilyn y ddolen – ac mae’r ymateb wedi bod yn arbennig yn barod, gyda’r archebion yn dechrau ein cyrraedd funudau’n unig ar ôl i’r dudalen fynd yn fyw.  Gobeithio y bydd y bynting yn gweld golau dydd mewn gerddi ac ar adeiladau ac y cawn ni hwyl dros y misoedd nesaf yn gweld Blaenau Gwent a Blaenau’r Cymoedd yn troi’n fwy pinc pob dydd!

Roedd y Pwyllgor Gwaith lleol wedi ffoli ar fflagiau yn bendant yn y cyfarfod nos Fercher – a phawb yn edrych ymlaen yn eiddgar am y can diwrnod nesaf, a phrin yn gallu aros tan i’r pafiliwn gael ei godi ar y Maes ymhen tua deufis.

Pwyllgor Eisteddfod Gen Glyn Ebwy

Bu’r cadeirydd, Richard Davies, yn siarad yn huawdl ar y radio ganol yr wythnos, gan ein hannog i gyd i fynychu’r Eisteddfod eleni. Wrth siarad gyda chyfeillion o amgylch y wlad mae’n amlwg bod ei sylwadau wedi taro deuddeg – yn enwedig pan apeliodd am gymorth, gan ddweud,  “Rydym  angen eich cymorth chi am wythnos – un wythnos yn unig i wneud gwahaniaeth am genedlaethau i un o ardaloedd Cymru.”.  Gobeithio’n arw y byddwn yn ymateb i apel Richard ymhen ychydig llai na chan diwrnod.

Rwy’n siwr bod Cymru gyfan yn ymwybodol bod rhai o artistiaid blaenaf Cymru wedi’u henwebu yng nghategori’r albwm gorau yng ngwobrau’r Brits Clasurol – a heddiw yw’r dyddiad cau.  Mae dau o’r rheini sydd ar y rhestr fer – Only Men Aloud a  Rhydian Roberts – yn perfformio gyda ni eleni yn yr Eisteddfod.  Bydd Only Men Aloud yn agor yr Eisteddfod ar nos Wener 30 Gorffennaf, gyda nifer o westeion arbennig.  Yna, Rhydian fydd yn cloi’r Brifwyl ar nos Sadwrn 7 Awst, gyda Catrin Finch, Gwawr Edwards a Côrdydd.  Mae tocynnau ar gael o hyd, naill ai drwy ffonio 0845 122 1176 neu drwy fynd arlein i’n gwefan ni.  A chroesi bysedd o rwan tan 13 Mai pan gyhoeddir y canlyniadau y bydd na enillydd o Gymru eleni!

Un o’r cyngherddau sydd wedi ennyn chwilfrydedd eleni yw’r cyngerdd nos Iau – Clasur o Noson – sy’n ddatblygiad newydd i ni.  Cyhoeddwyd rhestr fer o weithiau clasurol ddiwedd Chwefror,ac ers hynny mae’r cyhoedd wedi bod yn pleidleisio dros eu ffefrynnau nhw.  Y gweithiau sy’n cyrraedd y brig yn y bleidlais hon fydd yn cael eu perfformio ar lwyfan y Pafiliwn ar 5 Awst.  Mae’n syniad newydd, a hyd yn hyn dim ond y rhestr fer sydd wedi’i chyhoeddi – mae’n anodd mynd ati i ddethol unawdwyr heb wybod pa ddarnau fydd yn cyrraedd y brig!

Ond, mae’r dyddiad cau bron wedi cyrraedd – 30 Ebrill – wythnos i heddiw.  Felly, os ydych chi am bleidleisio ewch i’n gwefan i wneud.  Mae’r canlyniadau’n ddiddorol – roeddwn yn edrych arnyn nhw ddoe, ac mi oedd y tri ar y brig yn newid yn gyson – yn enwedig yn y categori opera.  Ddechrau Mai byddwn yn cyhoeddi enwau’r unawdwyr a’r gweithiau fydd yn cael eu perfformio, felly os nad ydych chi wedi prynu’ch tocyn eto, gwnewch yn fuan iawn.  Mae’n sicr o fod yn gyngerdd gwahanol iawn!