Dylan Iorwerth sy’n edrych ar bris y Gemau Olympaidd…

Un o’r pethau gwaetha’ i ddigwydd i Gymru oedd fod Llundain wedi ennill yr hawl i gynnal y Gêmau Olympaidd.

Tydi ambell i gytundeb i gwmni Cymreig ddim yn ddigon i newid hynny. Ble bynnag bron  yr edrychwch chi, ryden ni’n talu’r pris.

Mae peryg mai un o’r dioddefwyr diweddar yw Gwyl Bryn Terfel yn y Faenol. Fel y datgelodd Golwg 360 ddydd Sadwrn, dydi’r trefnwyr ddim yn gwybod a fydd yna ddigwyddiad eleni ai peidio.

Gan nad ydi’r cwmni sy’n trefnu digwyddiadau Stad y Faenol hyd yn oed yn gwybod beth sy’n digweydd, mae’n amlwg na fydd hi’n wyl o’r un maint ag arfer, hyd yn oed os bydd hi’n digwydd.

Oni bai am yr Olympics a’r ffordd y maen nhw’n sugno pob dimai sbâr allan o Gymru – a rhanbarthau Lloegr hefyd mae’n siwr – mi fyddai rhyw obaith o achub sioe sydd wedi dod yn rhan o galendr adloniant y Gogledd.

Fel y mae, does dim pres. Mae’r cyfan yn cael ei dywallt i dwll diwaelod yn Llundain ac yno y budd yn aros. Mi fydd Llundain wedi cael mwy fyth o adnoddau anhygoel i ledaenu’r bwlch ymhellach rhyngon ni a nhw.