John Bufton

Aelod Seneddol Ewropeaidd UKIP yng Nghymru, John Bufton, sy’n dadlau dros adael Ewrop a chwalu’r Cynulliad…

Gan obeithio y bydd yn gorffen gyda Senedd Grog, fe allen ni fod yn teimlo effaith yr etholiad yma am flynyddoedd i ddod. Mae’r Ceidwadwyr, Llafur a’r papurau newydd sy’n eu cefnogi nhw eisiau i chi feddwl y byddai Senedd Grog yn dinistrio’r wlad, ond fe allai’r etholiad yma newid gwleidyddiaeth am byth. Dyw hi ddim yn ras dau geffyl rhagor.

Wrth i’r wlad geisio ymdopi gyda’r dirwasgiad, y cwestiwn yw sut i dalu am bopeth. Mae pob un o’r pleidiau yn addo caledi a thoriadau mawr. Ers blynyddoedd, mae’r Llywodraeth wedi adeiladu economi ffug sydd heb fod wedi’i seilio ar fasnach. Y trethdalwyr sy’n talu un cyflog ym mhob pedwar yng Nghymru, gan ailgylchu yn hytrach na symbylu twf.

Drwy adael yr Undeb Ewropeaidd fe fydden ni’n arbed £10 biliwn y flwyddyn yn syth, llawer mwy na thoriadau £6 biliwn y Ceidwadwyr. Fe fyddai £120 biliwn arall yn cael eu harbed bob blwyddyn trwy gael gwared ar yr holl fiwrocratiaeth wag, sy’n tagu economi Prydain ac sydd wedi gwneud i’r holl ddiwydiannau trwm symud i’r Dwyrain Pell.

Annibyniaeth

Os ydyn ni am fod yn wlad gyfoethog mae angen annibyniaeth arnon ni nawr yn fwy nag erioed o’r blaen. Nod Ewrop yw gwasgaru cyfoeth yn gyfartal er lles y gwledydd tlawd ac mae hynny’n gwneud drwg i’r Deyrnas Unedig.

Yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol mae Prydain wedi creu 2 filiwn o swyddi yn ystod y degawd diwethaf, ond mae 2 filiwn o bobol o dramor wedi dod yma yn yr un cyfnod ac mae diweithdra wedi codi i 2.5 miliwn.

Yn hytrach nag Ewrop, mae eisio i ni ailsefydlu ein cysylltiadau gyda’r Gymanwlad, 54 gwlad sy’n rhannu hanes, iaith, a sustem gyfreithiol gyda’r Deyrnas Unedig, ac sy’n cynrychioli nifer o hiliau’r byd. Mae’n cynnwys India, ail economi  fwyaf y byd.

Mae’r Undeb Ewropeaidd yn gwybod hyn, ac mae arno ef angen y Deyrnas Unedig. Ond dyw’r Deyrnas Unedig ddim angen Ewrop.

Yn aml mae pobol yn cyfeirio at y ffaith bod Cymru wedi derbyn nawdd gan yr Undeb Ewropeaidd. Mae’n siŵr mae’r Cymoedd ydi un o’r unig rannau o’r Deyrnas Unedig sy’n cael yr arian, oherwydd bod cymaint o dlodi a diwethdra yno.

Ond fe fydd hyn yn dod i ben ar ôl 2013 wrth i wledydd tlotach ymuno gyda’r Undeb Ewropeaidd. Pe baen ni’n gadael Ewrop, y Deyrnas Unedig a Chymru a chynghorau lleol a fyddai’n penderfynu sut i gefnogi ardaloedd di-fraint. Nid Brwsel.

Cael gwared o’r Cynulliad

Mae yna lawer gormod o sefydliadau wedi eu rheoli gan bobol ar gyflogau mawr heb lawer i’w wneud. Y canlyniad yw llif o gyfreithiau sy’n caniatáu i’r Llywodraeth gadw llygaid arnon ni.

Ni yw’r unig blaid sydd eisiau cael gwared â’r Cynulliad. Dyw hyn ddim am ein bod ni’n wrth-Gymreig, fel y mae’r pleidiau eraill yn dadlau. Y gwir reswm pam y maen nhw eisiau mwy o ddatganoli yw  i gael hawlio mwy o arian a mwy o bwer gan y trethdalwyr.

Rydyn ni’n credu y dylai gwleidyddion fod yn gweithio’n galetach er mwyn gwneud yr hyn sydd angen ei wneud, sef cynrychioli Cymru yn San Steffan.

Fe fydden ni’n cadw’r adeilad y Cynulliad ac yn gofyn i ASau Cymru ei ddefnyddio ar gyfer canolbwyntio ar faterion sy’n ymwneud â Chymru gan fod yno am un wythnos bob mis.

Ar hyn o bryd mae yna tua 10 o wleidyddion yn eich cynrychioli chi. Mae’n siŵr nad ydych chi ddim yn gwybod pwy ydyn nhw na beth maen nhw’n ei wneud. Ond chi sy’n talu eu cyflogau nhw. Mae mwy o wleidyddion yn golygu mwy o gyfreithiau a llai o lais i bleidleiswyr.

Mae’n ddemocratiaeth ffug. Mae’r Cynulliad yn costio miliynau a dyw e ddim wedi llwyddo gyda pholisïau sydd wedi eu datganoli. UKIP yw’r unig blaid yng Nghymru sy’n erbyn datganoli – syndod o ystyried bod hanner y pleidleisiwyr yn cytuno gyda ni.

Gadael y drws ar agor

Mater o le, nid hil, yw mewnfudo. Dyw UKIP ddim yn gwahaniaethu rhwng un hil a’r llall, ond mae ein Llywodraeth yn gwneud hynny.

Maen nhw’n rhoi blaenoriaeth i ddinasyddion yr Undeb Ewropeaidd dros bawb arall. Rydyn ni’n credu fod yna broblem gyda’r twf mewn poblogaeth. Does yna ddim digon o ysbytai, ysgolion, tai na swyddi i bawb. Mae’n rhaid i ni weithredu cyn i ormodedd o bobol ostwng safon byw ym Mhrydain.

Dyna pam ein bod ni’n cefnogi atal mewnfudo parhaol am bum mlynedd, ac wedyn fe fydden ni’n rheoli mewnfudo  trwy ei seilio ar angen. Mae’r tair plaid arall yn hoffi rhoi’r argraff eu bod nhw’n llym ynglŷn â mewnfudo, ond tra byddwn ni’n rhan o’r Undeb Ewropeaidd byddwn yn cyfri pawb sy’n dod i mewn trwy’r drws cefn tra’n gadael y drws blaen led y pen ar agor.

Amser gadael

Mae rhai wedi agwrymu y byddai’r Deyrnas Unedig yn ei chael hi’n anodd cael cydnabyddiaeth a pharch gwledydd eraill pe baen ni’n gadael yr Undeb Ewropeaidd. Ond ni yw’r chweched economi mwyaf yn y byd. Dydyn ni ddim eisiau torri ein cysylltiadau gydag Ewrop ond does dim angen bod yn gaeth iddyn nhw.

Mae’r cyhoedd wedi dangos nad ydyn nhw eisiau cael eu rheoli gan Frwsel, ond mae tua 120,000 o reolau o’r Undeb Ewropeaidd yn rheoli eich bywyd chi. Mae gan San Steffan tua’r un pwer â’r prif fachgen mewn ysgol. Ym Mrwsel y mae’r prifathro.