Ieuan Wyn Jones, Dirprwy Brif Weinidog Cymru ac arweinydd Plaid Cymru, sy’n dweud mai cydweithio yw’r ffordd ymlaen yn San Steffan …

Does dim cwestiwn bellach – yn yr etholiad hwn mae pobol Cymru’n chwilio am drefn wleidyddol amgen yn San Steffan.

Mae’r polau piniwn i gyd yn awgrymu na fydd yna enillydd clir ac mai senedd grog fydd y canlyniad ar ôl Mai’r 6ed. Ond y cwestiwn ydi, pam y dylsai hynny effeithio ar y ffordd y mae pobol yn gweld natur y frwydr hon?

Mewn senedd grog, fydd hi ddim mor syml â chael un blaid mewn grym sy’n medru anwybyddu anghenion Cymru fel sydd wedi digwydd yn draddodiadol dan Lafur a’r Toriaid.  Heb fandad clir gan y bobol, fe fydd yn rhaid i’r pleidiau gydweithio er mwyn sicrhau llywodraeth sefydlog.

Yn groes i’r hyn y mae rhai yn ei awgrymu, rydw i o’r farn fod hyn yn beth da ac yn sefyllfa iach iawn. Mae cydweithio gwleidyddol yn rhywbeth sydd yn arferol mewn llywodraethau ledled Ewrop a bellach mae’n realiti sydd yn gyfarwydd hefyd i ni yma yng Nghymru.

Mae cael senedd fwy cytbwys yn golygu y bydd yn rhaid i’r pleidiau anghofio am y cecru pleidiol cul er mwyn cydweithio a sicrhau sefydlogrwydd.

Sicrhau’r ddêl orau i Gymru, a thrwy hynny creu llywodraeth gref a sefydlog, oedd cymhelliad Plaid Cymru yn ystod y trafodaethau i ffurfio llywodraeth yng Nghymru yn 2007. A dyma sydd yn ganolog i’n hymgyrch ni hefyd yn yr Etholiad Cyffredinol hwn yn 2010.

Gweledigaeth

Mae gan Blaid Cymru weledigaeth glir o’r hyn y byddwn ni’n ceisio’i ennill dros Gymru os a phan ddaw hi’n bryd i drafod eto.

Rydym ni eisioes wedi sicrhau cytundeb gyda phlaid yr SNP yn yr Alban ynglyn â’r hyn y bydd ein dwy plaid  yn mynnu dros ein gwledydd – ac mae diogelu swyddi, sicrhau mwy o gefnogaeth i’n pensiynwyr a mynnu cyllid teg i Gymru yn ganolog i’r cytundeb hwnnw.

Heb os, yr her fwya’ sy’n wynebu Cymru ar hyn o bryd yw’r sefyllfa economaidd a’r toriadau sy’n wynebu Llywodraeth Cymru a’n gwasnaethau angenrheidiol.

Dydi Cymru ddim yn cael ei chyllido’n deg ar hyn o bryd – yn ôl arolygon annibynnol, rydan ni’n colli o leia’ £300m bob blwyddyn, ac mae’r fformiwla sy’n gosod lefel y cyllid wedi methu.  Mae’r Blaid yn gofyn am sicrwrydd bod y bwlch cyllido hwnnw yn cael ei gau tra bod y fformiwla yn cael ei diwygio er mwyn creu setliad tecach.

Mae camreolaeth Llafur o’r economi yn golygu bod toriadau yn anochel – rydan ni wedi amcangyfrif y gallan nhw gyrraedd hyd at £3 biliwn o bunoedd dros y 3 blynedd nesaf. Mae datrys problem tangyllido Cymru cyn i’r toriadau hyn ddechrau brathu yn flaenoriaeth.

Argyfwng pensiynau

Mae yna broblem arall sy’n wynebu’n ein cymdeithas heddiw sydd angen ei datrys ar frys – yn enwedig cyn i’r toriadau difrifol ddechrau taro ein gwasanaethau craidd. Y broblem honno yw’r argyfwng pensiynau.

Mae tlodi ymysg ein pensiynwyr yn broblem rhy ddifrifol i’w hanwybyddu.  Mae miloedd o’n pobol hŷn yng Nghymru mewn sefyllfa lle nad ydyn nhw’n gallu fforddio talu i gadw’r tŷ’n gynnes a chael pryd o fwyd.  Mae’r sefyllfa yn gwbl gywilyddus ac anwaraidd yn yr unfed ganrif ar hugain.

Rydan ni’n sôn am bobol sydd yn aml iawn wedi gweithio’n galed a thalu trethi drwy’u hoes – pobol sydd â pherffaith hawl i ddisgwyl pensiwn gwladol teg ar ôl iddyn nhw ymddeol.

Mae Plaid Cymru’n ymgyrchu’n galed i sicrhau bod y pensiwn gwladol yn cael ei godi i lefel y mae modd byw arno. Y cam cyntaf yn ein barn ni ydi cynyddu’r pensiwn i’r bobol hynaf a’r mwya’ bregus.

Mae Plaid Cymru wedi cyhoeddi cyfres o fesurau fydd nid yn unig yn codi digon o arian i dalu am y pensiwn ychwanegol, ond mesurau i dorri nôl ar wariant cyhoeddus er mwyn ymateb i’r ddyled enfawr y mae Llywodraeth San Steffan ynddi bellach.

Ar adegau fel hyn pan mae arian cyhoeddus yn brin, mae’n rhaid blaenoriaethu. Mae’n bryd i ni sicrhau bod llywodraeth yn gweithredu gwerthoedd ein cymunedau ni.

Dyna y mae Plaid Cymru’n benderfynol o’i gyflawni. Gyda mwy o Aelodau Seneddol o Blaid Cymru, fe fydd llaw Plaid Cymru’n gryfach wrth frwydro am y gorau i’n cymunedau ni.