Hywel Wyn Edwards

Hywel Wyn Edwards sy’n dweud ei fod yn braf gweld y gwyrddni dan draed…

Mae’n fis Gorffennaf a dyma fi’n addo dechrau go iawn ar y blogio am yr Eisteddfod eleni.  Mae’r misoedd diwethaf wedi hedfan, ond pan welais i’r Pafiliwn Pinc yn cael ei godi ar Fferm Bers Isaf ddechrau’r wythnos, dyna sylweddoli’i bod hi’n hen bryd i mi ail-ddechrau cyfrannu i hwn.

A beth sydd wedi digwydd dros yr wythnosau diwethaf?  Do, fe godwyd y Pafiliwn, ac fel mae’r llun yn ei ddangos, rydan ni’n dychwelyd i dir gwelltog eleni – i gae go iawn – ac mae’n braf gweld y gwyrddni dan draed.  Mae’r tir mewn cyflwr arbennig o dda, ac rwy’n gobeithio y bydd pawb yn cytuno bod y Maes yn un braf iawn eleni.

Unwaith mae’r Pafiliwn i fyny, mae’r adeiladau eraill yn ymddangos ac yn tyfu fel madarch mewn dim o dro, ac er mod i wedi bod yn gweithio gyda’r Eisteddfod am nifer o flynyddoedd, mae gweld y Pafiliwn Pinc yn cael ei godi yn dal i fod yn brofiad eithaf emosiynol.  Nid yn unig oherwydd ei fod yn golygu bod rhaid i bopeth fod yn barod cyn bo hir, ond hefyd, gan bod cynifer o Gymry’n edrych ymlaen i ddod i’r Eisteddfod – ac mae hyn yn amlwg eto eleni, gyda’r ymateb i godi’r Pafiliwn yn arbennig.  Ond does neb yn edrych ymlaen yn fwy na fi a’r staff – ydi, mae’n wythnos flinedig iawn, ond dyma binacl y flwyddyn i bawb.


Y Pafiliwn Pinc

Mae’r ymateb lleol yn Wrecsam wedi bod yn ardderchog, a dyfal barhad ein gwirfoddolwyr a’n pwyllgorau lleol i godi arian ac ymwybyddiaeth yn anghredadwy.  Dydi hi byth yn hawdd codi arian mewn cyfnod o gynni economaidd, ond mae pobl Wrecsam wedi mynd ati gyda’r fath frwdfrydedd – a syniadau gwreiddiol a cwbl wahanol!  Rydan ni fel staff wedi cael croeso cynnes iawn gan drigolion yr ardal, a chan ein partneriaid fel y Cyngor lleol, sydd wedi bod yn arbennig o gefnogol.

Dros yr wythnosau nesaf byddwn yn mynd ati ymhellach i addurno’r ardal.  Mae pob ysgol yn y dalgylch wedi derbyn fflagiau a phosteri, a rhai ohonyn nhw wedi bod wrthi’n brysur yn addurno o amgylch buarth yr ysgol a’r ystafelloedd dosbarth.  Ddechrau’r wythnos, clywsom y newyddion trist bod fflagiau un o’r ysgolion cynradd wedi’u difrodi, ond erbyn hyn, mae’r disgyblion wedi derbyn rhagor gennym, ac maen nhw’n edrych ymlaen i fynd ati i addurno eto dros y dyddiau nesaf.  Gobeithio wir na fydd y fflagiau yma’n cal eu difrodi.

Mae busnesau lleol hefyd wedi bod yn cysylltu er mwyn derbyn  fflagiau – ac mae teitl yr ymgyrch yn hollol gywir eto eleni – ffoli ar fflagiau – neu mynd yn boncyrs am bynting!  Rydym ni eisoes wedi dosbarthu 10km o fflagiau ac mae rhagor yn ein cyrraedd dros y dyddiau nesaf.  Bydd baneri, fflagiau a phosteri ym mhobman –gobeithio – wrth i’r Eisteddfod agosau, a gresyn nad oes modd i ni fod yn addurno’r priffyrdd tuag at Wrecsam er mwyn dangos y croeso cynnes, ond byddai hyn yn erbyn y gyfraith felly gwell peidio!

Felly, pedair wythnos i fynd – pedair wythnos cyn y cyngerdd agoriadol.  Ydych chi wedi prynu’ch tocynnau eto?  Cofiwch wneud ymlaen llaw – www.eisteddfod.org.uk – neu ffoniwch 0845 4090 800 – ac fe fydda i’n ôl efo rhagor o straeon dros y dyddiau nesaf.