Dylan Iorwerth sy’n cynnig cyngor i Gordon Brown…

Mae yna ddau ddarn pwysig iawn o gyngor yn ymwneud â bod mewn twll.

Un oedd awgrym Eirwyn Pontsian erstalwm – os wyt ti mewn trwbwl tria ddod mas ohono. Y llall yw’r un cyffredinol am roi’r gorau i balu.

Mae’n ymddangos fod Gordon Brown am drio’r cynta’ ond, wrth wneud hynny, fe fydd yn mynd yn ddyfnach a dyfnach i lawr i’r stwff sy’n dwyn ei enw.

Yr awgrym ydi fod y Prif Weinidog ar fin cyhoeddi newidiadau mawr … neu o leia’ y bydd yn gwneud hynny os ydi’r darogan yn wir fod Llafur am gael cweir ofnadwy yn yr etholiadau Ewropeaidd a’r etholiadau lleol yn Lloegr.

Yn ogystal â newid ei Gabinet – a chael gwared hyd yn oed â’r Canghellor, Alastair Darling – mae sôn y bydd yn trio gwneud rhywbeth mwy radical fyth ac yn gofyn i’r Democratiaid Rhyddfrydol uno ag o.

Pryd glywson ni siarad tebyg o’r blaen? Mi fuodd yna ryw ychydig yn syth ar ôl i Gordon Brown ddod i rym, ond mi fuodd yna lawer mwy yn ôl ynghanol yr 1990au pan oedd Llafur yn gobeithio curo’r Ceidwadwyr am y tro cynta’ ers 1979.

Dyna pryd yr oedd Tony Blair hefyd yn sôn yn agored am gael pleidleisio cyfrannol, PR. Yn rhyfedd iawn, mae Llafur wedi dechrau sôn am yr un peth unwaith eto.

Mi fydd pawb yn cofio beth ddigwyddodd i’r fflyrtio efo’r Democratiaid Rhyddfrydol ac adroddiad Roy Jenkins ar y system bleidleisio … yfflon o ddim. Y funud yr oedd Blair yn meddwl ei fod yn saff, mi anghofiodd y cyfan.

Ar yr union adeg, roedd Ysgrifennydd Cymru ar y pryd, Ron Davies, yn sicrhau fod yna bleidleisio cyfrannol yng Nghymru ac un o’i ddadleuon oedd fod rhaid achub Llafur rhagddi hi ei hun, a rhag y math o chwalfa sydd fel petai ar fin digwydd.

Felly, mae ymgais Gordon Brown yn druenus ac mi fydd pawb yn gweld mai ymgais ddespret yw hon i gadw grym. Arwydd o wendid nid cryfder.

Ar y llaw arall, efallai mai dyma ydi unig gyfle’r Blaid Lafur i’w hachub ei hun rhag trychineb.