Nid oedd y gystadleuaeth yn llwyddiant ysgugol i dîm Gary Speed
Wedi i’r llwch setlo ar y gystadleuaeth, mae’r cefnogwr pêl-droed brwd, Tommie Collins, yn asesu llwyddiant Cwpan Cenhedloedd Carling yn ddiweddar. 

Dwi gofio pryd cafodd y gystadleuaeth yma ei chyhoeddi, roedd pawb yn bositif iawn ynglŷn â’r potensial. Y bwriad oedd ail-greu’r gemau rhyngwladol cartref ‘slawer dydd.

Ond gyda thorfeydd isel iawn yn bron i bob gêm, methiant llwyr oedd o mewn gwirionedd. 

Fe ddechreuodd ym mis Chwefror ac roedd bob gêm yn  cael eu chwarae yn stadiwm newydd sbon Aviva sef yr hen Landsdowne Road yn Nulyn. Ond y camgymeriad mawr o’r dechrau oedd dewis Iwerddon fel yr ‘host’ cyntaf.  Mae Iwerddon wastad wedi bod yn ddrytach na Phrydain, felly yn enwedig o ystyried y sefyllfa economaidd fregus fyd eang, doedd ddim gobaith i gefnogwyr deithio yn eu miloedd i Ddulyn.

Roedd problem arall wrth geisio rheoli cefnogwyr Gogledd Iwerddon yn y Weriniaeth.  Mae pawb yn gwybod nad oes llawer o gariad rhwng y ddwy wlad. Fe achoswyd trwbl gan y Gogleddwyr ym mis Chwefror wrth herio Yr Alban, ac erbyn mis Mai roedd y Gardai wedi gwneud eu penderfyniad – doedden nhw ddim isho eu gweld nhw yn Iwerddon. 

Fe wnaethon nhw deithio mewn bws wedi ei drefnu’n bwrpasol ar gyfer gêm yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon. Ac yn anffodus oherwydd hyn mi benderfynodd cefnogwr y Gogledd droi eu cefn ar anthem genedlaethol y Weriniaeth. Roeddynt yn chwarae Cymru dridiau yn ddiweddarach a dim ond llond bws deithiodd. 

Wrth gwrs roedd y ‘Tartan army’ wedi dod yn eu miloedd, ond roedd llawer wedi troi eu cefn ar y gemau oherwydd y prisiau. 

O Gymru dim ond tua chant a hanner wnaeth fentro drosodd i’r tair gêm.

Roedd hyn yn bechod, yn fy marn i, mae ’na botensial i’r gystadleuaeth o gael y fformat yn iawn.  Yn amlwg oedd y bwlch rhwng y gemau, yn enwedig rhwng Chwefror a Mai yn broblem, ac yna’r diffyg bwlch i Gymru ar gyfer y ddwy gêm olaf!

Un ateb ydy chwarae dwy gêm y diwrnod, efallai gydag un i ddechrau am 17.30 a’r llall am 20.00. Hefyd yn amlwg mae angen i’r tocynnau  fod yn rhatach – £15 i oedolyn a £5 i blentyn? A fyddai wedi bod yn well gyda Lloegr yn rhan o’r gystadleuaeth? Yn sicr, byddai pob gwlad wrth eu bodd yn eu curo nhw!