Malan Wilkinson sy’n adolygu cyngerdd Llŷr Williams, Cyfres Sonatâu Beethoven, yng Ngaleri Caernarfon…

Cafwyd rhaglen amrywiol i drydydd cyngerdd y pianydd Llŷr Williams. Roedd y cyngerdd Sonatâu “ar ffurf brechdan” yng ngeiriau’r pianydd. Roedd Sonata gyntaf y rhaglen yn E feddalnod fwyaf Op. 7 a’r olaf yn B feddalnod fwyaf Op. 22 yn Sonatâu mawreddog, gwych a’r ddwy sonata ganol yn fwy chwareus.

Daeth Llŷr Williams i mewn i’r neuadd gyngerdd olau, oedd dan ei sang, wedi gwisgo mewn du o’i gorun i’w sawdl.  Roedd yn wên o glust i glust ac roedd ei ymarweddiad urddasol a’i hyder tawel yn dwysau disgwyliad a chyffro’r gynulleidfa – ar ddechrau’r hyn ro’ ni’n gwybod, a fyddai’n daith.

‘Syrpreis’

Dyw Sonata gynnar rhif 4 E feddalnod fwyaf Op. 7 (‘Grand Sonata’) Beethoven ddim yn un o’m ffefrynnau, mae’n rhaid i mi gyfaddef.  Ond, wrth wrando ar y Sonata hon y cefais syrpreis fwyaf y gyngerdd.

Daw un o’r cyfleoedd mwyaf trawiadol i ddal sylw’r gynulleidfa a chreu argraff yn yr ail symudiad  – Largo, con gran espressione. Yn y symudiad hwn, fe lwyddodd Llŷr Williams nid yn unig i liwio’r alaw yn hyfryd ond i drin seibiau cerddorol y cyfansoddwr yn gelfydd. I mi, mae’r seibiau hyn yn rhan annatod o’r alaw. Fe lwyddodd Llŷr Williams i ddal y gynulleidfa yng nghledr ei law heb ildio i ddehongliad gôr sentimental – rhywbeth fyddai wedi bod yn hawdd ei wneud! Fe ddywedodd un ddynes wrtha’i yn yr egwyl ei bod wedi dod yn agos at ‘golli deigryn’ yn ystod y symudiad. Tystiolaeth amlwg – ynghyd â thawelwch llethol y gynulleidfa yn ystod ei chwarae, o allu arbennig Llŷr Williams i gyffwrdd pobl, wrth lwyddo cadw’n hollol driw i ofynion technegol y cyfansoddwr.

‘Byrfyfyriol’

Er bod Sonata, rhif 9 yn E fwyaf  Op 14/1 yn dipyn fyrrach na hyd anghyffredin o hir y Sonata gyntaf , roedd ei ymdriniaeth o’r alawon yr un mor gelfydd a ffres. Roedd yn llwyddo perfformio’r  troeon annisgwyl yn y gerddoriaeth mewn ffordd  oedd yn ymddangos yn fyrfyfyriol ambell dro – gan gadw dychymyg y gynulleidfa’n fyw – a’u cadw hwythau ar flaenau eu seddi, camp yn wir!

Doedd ei ddehongliad o’r drydedd Sonata yn ddim llai gwyrthiol. Mae strwythur Sonata rhif 10 yn G fwyaf yn anghyffredin yn y ffaith mai Scherzo yw’r trydydd symudiad. A’r symudiad hwn oedd uchafbwynt ei berfformiad o’r Sonata i mi. Fe wnaeth Llŷr Williams chwarae thema gyntaf y finale yn hollol ddidwyll a disglair gan lwyddo i wneud i’r newidiadau cynnil yn y gerddoriaeth yn ddiweddarach ymddangos yn gwbl syml a diymdrech. Doedd dim amheuaeth gen i fy mod i’n mwynhau dehongliad perffeithydd o waith Sonatâu Beethoven!

‘Egni’ a ‘gwrthgyferbyniad’

Roedd egni Llŷr Williams yn Sonata rhif 11, B feddalnod fwyaf, Op. 22 yn amlwg o gychwyn cyntaf yr Allegro con brio. Nid perfformiad llawdrwm a gafwyd yma ond perfformiad sensitif, rhythmig a chwim o fotifau a themâu amrywiol y cyfansoddwr. Roedd y gwrthgyferbyniad hollol a gafwyd yn niwedd y symudiad cyntaf a’r ail (Adagio con molto esspressione) yn ysgytwol ac fe ddaeth yr holl gynnwrf i uchafbwynt ym mwrlwm beiddgar y coda sy’n cloi’r gwaith.

Mae Llŷr Williams yn ddehonglwr cywrain, glân a chynnil. Roedd y ddynes oedd yn eistedd wrth fy ymyl eisoes yn berchen ar recordiadau Beethoven y pianydd enwog Alfred Brendel a minnau’n berchen ar gasgliad Daniel Barenboim. Roedd y ddwy ohonon ni’n gegrwth ddiwedd y gyngerdd, dan gyfaredd lwyr – yn gwybod ein bod ni wedi profi rhywbeth hynod ac arbennig – ar ein stepen drws. Mae Llŷr Williams yn llwyddo i ennyn chwilfrydedd cynulleidfaoedd hyd a lled Prydain – cynulleidfaoedd sy’n dod yn ôl o hyd ac o hyd i wrando arno. O gymalau cyffrous, acennog ac egnïol Beethoven i’w alawon mwy breuddwydiol, roedd hud yn nehongliadau Llŷr Williams ohonynt heno. Ac wrtho iddo gerdded yn ôl i dywyllwch ochr y llwyfan, fe sylwais innau fy mod i eisiau ailddirwyn i ddechrau’r daith. Dyma ddewin o bianydd sy’n gaffaeliad i Gymru.