Dylan Iorwerth sy’n edrych ar y sgandal costau…

Mae eisio rhoi stop ar y Daily Telegraph. Dim rhagor o ddatgelu sgandalau am Aelodau Seneddol a’u lwfansau.

Mae’n siwr y byddai rhai o’r ASau sydd wedi cael llonydd hyd yn hyn yn dweud yr un peth, ond am reswm hollol wahanol.

Ar ôl tair wythnos ddi-ildio o straeon newyddion am ddigwilydd-dra aelodau Ty’r Cyffredin, mae yna beryg mawr o ormod o bwdin.

Bellach, dydi rhywun yn synnu dim o glywed fod AS arall wedi pocedu cwpwl o ddegau o filoedd am gartre’ neu ddau yn rhywle heblaw ei etholaeth. Bron nad yden ni’n disgwyl pethau o’r fath.

Y peryg wedyn ydi y bydd y stem yn mynd allan o’r ymgyrch i newid pethau hefyd. Mi fydd pobol wedi colli diddordeb a’r byd gwleidyddol yn gallu setlo’n ôl yn dawel bach i’w drefn arferol.

Mi fydd holl ddatganiadau dewr Cameron a Clegg yr wythnosau diwetha’n cael eu hanghofio neu eu glastwreiddio a bydd degau o ASau’n llithro i’r cefndir heb unrhyw gosb.

Mae angen stop ar y datgelu – neu o leia’ ar ymestyn y straeon ddydd ar ôl dydd – ac mae angen gweithredu cyflym. I ddechrau er mwyn atal pob twyll ac wedyn i ddechrau ar y diwygio go iawn.