Malan Vaughan Wilkinson sy’n gofyn a ydi Gŵyl y Feanol wedi newid ei chân…

Mae’r cyhoeddiad y bydd noson Tan y Ddraig yng Ngŵyl y Faenol eleni yn cynnwys bandiau Seisnig wedi troi’n dipyn o bwnc llosg.

Ers bron i ddegawd roedd y noson yn gyfle prin, tu hwnt i un wythnos ym mis Awst, i roi llwyfan i gerddoriaeth boblogaidd bandiau Cymraeg.

Roedd y noson wedi denu cynulleidfa ffyddlon sy’n cario ‘mlaen i fynychu’r ŵyl yn flynyddol (gan fy nghynnwys i!).

Serch hynny, mae rhai wedi croesawu penderfyniad y trefnwyr i ddarparu llwyfan i fandiau Seisnig er mwyn denu tyrfa newydd i weld bandiau Cymraeg.

Ond, mae eraill yn gofyn pam na gymerwyd y cyfle i arddangos rhai bandiau Saesneg gyda chysylltiadau cryf â Chymru – fel yr awgrymodd Arfon Wyn o fand y Moniars.

Draig digon llipa

O’m rhan i, mae’r cliw yn yr enw. Tan y Ddraig fydd enw’r noson o hyd. A heblaw eu bod nhw’n cyfeirio at ryw sarff Siapaneaidd, rwy’n cymryd mai at Gymru’n benodol y maen nhw’n cyfeirio.

Wrth gwrs bod angen sêr mawr rhyngwladol o Loegr a thu hwnt ar yr ŵyl ond dwi’n siŵr ein bod ni’n gallu llunio o leiaf un line-yp o’n talent ein hunain?

Dwi’n credu y byddai cynnwys bandiau o Gymru sy’n canu’n Saesneg, ac mae yna ddigon ohonyn nhw wedi gwneud eu henw’n fyd eang, wedi bod yn llwyddiant mawr.

Mae’n wrthun i mi fod rhaid i ‘wlad y gân’ fentro ‘allan’ i chwilio am fandiau pan mae’r genedl yn meithrin cyfoeth o dalentau ifanc, brwd a dwyieithog.

Dyma un noson mewn gŵyl benwythnos sy’n gyfle perffaith i Gymru ddangos i weddill y byd mor amryddawn yw ei cherddorion.

Datganiad ‘gwleidyddol’

Beth bynnag am Dân y Ddraig, beth oedd yn gadael y blas cas yn y geg go iawn oedd noson gyfan i ddathlu  ‘Pen-blwydd Brwydr Prydain’.

Mae pawb yn cefnogi ac yn parchu’r aberth a wnaethpwyd yn ystod yr Ail Ryfel Byd ond o edrych ar y line yp mae peryg i’r noson droi yn noson o bropaganda i frwydrau’r  presennol sydd dipyn mwy dadleuol.

Dwi’n credu y byddai noson o’r math yma yn tynnu’n groes i ddaliadau heddychlon a chenedlaetholdeb Cymreig y rhan fwyaf o drigolion y fro ble y bydd hi’n cael ei chynnal.

Wrth gwrs bod “croesawu pobl o bob cwr o Brydain” i “gornel o Gymru unwaith eto” yn bwysig, fel y mae Bryn Terfel eisoes wedi sôn.

Ond does dim pwynt eu gwahodd nhw draw i fwynhau line-yp y gallen nhw fod wedi ei weld yn Chesham.

Y pryder sydd gen i yw bod Tan y Ddraig yng Ngŵyl y Faenol wedi colli peth ar yr hyn oedd yn ei gwneud hi’n noson unigryw.

Cawn ni weld yn y man os ydi hi wedi colli blas ar ei Chymreictod ac yn canu rhyw gân arall bellach.