Mae’r cefnogwr a sylwebydd pêl-droed o Borthmadog, Tommie Collins, yn cefnogi Chelsea adref, ac oddi cartref ers pan yn blentyn. Yma mae’n bwrw golwg dros eu tymor gan edrych ymlaen i ddathlu cipio coron Uwch Gynghrair Lloegr

Mae tymor arall ar fin gorffen, ac eleni mae Chelsea yn mynd am y dwbl – ond nid y ‘dwbl mawr’ sef Cynghrair y Pencampwyr a’r bencampwriaeth fel mae’r perchenog Roman Abramovich yn torri ei fol amdano – ond cwpan yr FA a’r bencampwriaeth. Ymdrech dda iawn, yn enwedig o gofio fod Arsenal  a Spurs wedi gwneud y dwbl yn barod! Chip arall oddi ar ein ysgwydda ni!

Mae wedi bod yn dymor rhyfedd i ddweud y gwir, doedd neb yn edrych fel eu bod nhw am redeg i ffwrdd â’r gynghrair – debyg iawn i’r etholiad – ond  Chelsea sydd ar y brig gydag un gêm i fynd.

Pan enillodd y clwb gwpan yr FA yn 1997, o’n i fel dyn gwirion, gan i ni fod 27 mlynedd heb ennill tlws cyn hynny – oedd, roedd yn gyfnod eitha’ hir! Ond nid oherwydd ein bod ni’n glwb llwyddiannus rŵan yr ydw i’n cefnogi Chelsea, na, mae o yn y gwaed.

Uchafbwynt y tymor i mi oedd ennill yn y Theatre of Dreams (Old Trafford) ym mis Ebrill. Roedd hon yn gêm oedd rhaid ei hennill, ac roedden ni’n haeddu’r fuddugoliaeth. Fe ges i siwrnai braf adref gyda chefnogwyr Man Utd blin o Borthmadog y diwrnod hwnnw!

Beth am isafbwynt y tymor hwn? Mae’n amlwg – colli i Inter Milan yng Nghynghrair y Pencampwyr. Mi fues yn teithio tipyn eto eleni – gan gynnwys mynd i’r Bernabeu ym Madrid i gêm Athletico, ond biti na fydda i yno mis yma eto – os oeddem am ennill cwpan Ewrop,  hwn oedd y lle i wneud hynny.

Ym Mehefin bydd Cwpan y Byd efo ni. Dim golwg o Gymru eto, ond dwi wedi hen arfer  erbyn hyn.  Byddai’n edrych ymlaen at weld Drogba yn chwarae i’r Ivory Coast, a hefyd mae ’na sôn bod Chile yn dîm gwerth eu hystyried. Mi fydda i’n cadw llygad ar Aguero o’r Ariannin gan fod llawer o sôn bod Chelsea am ei arwyddo, ond mae’n debygol y bydd timau Ewrop i gyd yn cael eu cysylltu gyda pob chwaraewr.

Ond yn gyntaf cyfle i fwynhau dydd Sul, cyn belled nad yda ni’n baglu yn erbyn Wigan!