Dylan Iorwerth yn trafod peryglon y dadleuon teledu mawr…

Wrth i bawb groesawu’r cyffro newydd a ddaeth i ymgyrch yr Etholiad Cyffredinol, mae yna gwestiynau mawr yn codi hefyd tros y dadleuon teledu.

Yn ogystal ag agor y ras i drydydd ceffyl, mae wedi ein gwthio ni gam anferth arall tuag at steil arlywyddol o wleidyddiaeth, lle mae personoliaeth yn bwysicach na dim.

Ac, yn hytrach na’n helpu i ddod i adnabod yr arweinwyr yn well, mae’r dadleuon yn rhoi mwy fyth o rym yn nwylo’r troellwyr a’r arbenigwyr cyflwyno.

Dyma rai o’r pryderon sy’n codi:

  • Pan fydd un o’r pleidiau mawr yn dewis ei harweinydd nesa’, un o’r prif ystyriaethau fydd eu gallu i edrych yn dda ac actio’n ddeheuig yn y ddadl deledu.
  • Yn hytrach na dod i wybod rhagor am bolisïau’r pleidiau, yr unig beth sy’n dod i’r amlwg ydi gallu’r arweinwyr i drin y cyfryngau a pharatoi ymlaen llaw. Nid trefn dair plaid sydd gynnon ni bellach ond trefn tri arweinydd.
  • O ganlyniad i’r dadleuon, mae llai a llai o sylw wedi bod ar wleidyddion eraill. Mae’r gweddill yn anweledig – os bydd angen arweinydd newydd yn y dyfodol, fydd gan neb syniad pwy ’di pwy. Mae hyd yn oed Gobaith Mawr Economaidd y Ganrif, Vince Cable, wedi ei wthio o’r neilltu.
  • Tra bo’r tri arweinydd yn ddynion, mae’n waeth byth ar wleidyddion benywaidd. Mae’n ffaith bod gwragedd y tri arweinydd wedi cael mwy o sylw na merched fel Harriet Harman a Theresa May, sydd i fod yn ddylanwadol.
  • Yng Nghymru, mae’n gwaethygu’r diffyg balans o ran sylw – enghraifft arall o’r ffaith nad yw’r system wleidyddol gyfan wedi ei haddasu i ofynion datganoli. Dadleuon Lloegr yw’r rhain, yn union fel y mae Tŷ’r Cyffredin yn troi yn Senedd i Loegr.
  • Pwy bynnag sy’n ennill, mi fydd ei rym o fewn y Llywodraeth yn ddychrynllyd. Mae’r syniad o lywodraeth trwy Gabinet eisoes wedi ei lastwreiddio’n ofnadwy. Ar ôl yr Etholiad Cyffredinol yma, fydd y gweinidogion eraill fawr gwell na chlwb cefnogwyr.

Gwneud pethau’n waeth fyddai syniad y Ceidwadwyr i newid y drefn os bydd plaid y Llywodraeth yn newid ei harweinydd. Yn ôl eu hawgrym nhw, byddai angen cynnal Etholiad Cyffredinol newydd o fewn chwe mis.

Mae’r peth yn nonsens – o ran gwleidyddiaeth a chyfansoddiad. Mae’n cryfhau’r syniad mai pleidleisio i berson yr yden ni, nid i blaid.

Fel arfer, rhaid i ni’r etholwyr, y cyfryngau a’r gwleidyddion rannu’r bai. Ryden ni a nhw mor barod â’n gilydd i bwysleisio personoliaethau – a rhoi’r bai ar un o’r lleill.