Llinos Dafydd, gohebydd gyda chylchgrawn Golwg, sy’n poeni am ddyfodol siopau llyfrau bychain Cymru …

Gyda phrynu ein llên dros y wê mor gyfleus y dyddiau yma, mae’n ddigon hawdd i golli nabod ar ein siopau llyfrau ni.

Un glic, ac mae gyda chi’r nofel yna ry’ch chi’n ysu am ei darllen yn eich basged siopa.

Efallai fy mod i’n euog am wneud hyn o dro i dro – ond rhanfwya’ o’r amser dw i’n mynd i’r siop leol, am fy mod i eisiau busnesa a gweld beth yw barn y siopwr am y nofel diweddara’ sydd wedi cyrraedd y silffoedd.

Mae newyddion heddiw bod perchennog Siop y Morfa yn y Rhyl yn rhoi’r gorau iddi yn un trist iawn.

Ond gyda siopau bychain fel hyn yn cystadlu gydag archfarchnadoedd mawrion pan mae’n dod at lyfrau a chrynoddisgiau, does dim gobaith.

Mae’n dda i weld y farchnad yn ehangu, a bod y cynnyrch yn cael ei werthu yn y siopa mawr – ond nid ar draul cau siopau sydd wedi bod wrthi ers blynyddoedd.

Peth braf yw medru cerdded mewn i siop llawn o lyfrau, cael wyneb cyfarwydd yno i gynnig arbenigedd neu farn ar lyfr.

Dy’ch chi ddim cweit yn cael y cyffyrddiad personol yna mewn archfarchnad.

Efallai bod eich Tesco neu eich Sainsbury’s yn fwy sgleiniog, a glan gloyw – ond mae yna hud yn perthyn i’r silffoedd pren, y sbec o ddwst, a’r rhesi di-ri o lyfrau yn y siopau bychain. Mae fel mynd i fyd arall.

Dw i ddim yn gwybod beth yw’r ateb go iawn – dim ond annog pawb i siopa’n eu siop lyfrau lleol.

Ond efallai, yn hytrach na gweld y we fel hen fwci, byddai modd i’r siopau hynny droi mwy at y rhyngrwyd, a chynnig gwasanaeth cludo i’w cwsmeriaid trwy greu wefannau deiniadol; neu drefnu mwy o ddigwyddiadau a fyddai’n denu’r werin datws i gamu i’w siopau.

A dw i’n gwybod o brofiad bod plant yn hoffi ymgartrefu mewn cwtsh bach i ddarllen y trysorau diweddara’.

Byddai’n braf gweld ardaloedd fel hyn ym mhob siop lyfrau, lle all y plant pigo llyfr i’w ddarllen, a physgota am ragor – gan obeithio y bydd y rhieni yn estyn am eu cardiau credit i dalu am lyfrau iddyn nhw a’u plant.

Gyda siopau llyfrau fel Siop y Morfa yn cau glep, mae rhan o’n hanes a’n diwylliant ni’n cael ei golli.

Dw i’n gobeithio na fydd yr un hwch yn bygwth mynd drwy siopau llyfrau gweddill y wlad.