Mae Dylan Iorwerth yn Zanzibar, yn helpu i wneud rhaglen deledu ar gyfer S4C. Mae refferendwm a chlymblaid yn eiriau mawr yno hefyd … ac mae dyfodol yr Ynys Sbeis yn dibynnu arnyn nhw …

Union wythnos yn ôl, mi welais i’r dyn ei hun – o bell, ar lwyfan mewn stadiwm bêl-droed, yn annerch miloedd o bwysigion a chefnogwyr.

Ym mhob man, bron, ro’n i wedi gweld ei luniau – ar bosteri’n annog pawb i bleidleisio trosto. Dr Ali Muhammed Shein, Arlywydd Zanzibar, ac enw i’w drysori ar gyfer cwisiau ‘Trivial Pursuit’.

Yn ystod y nosweithiau diwetha’, dw i wedi gweld llun gwahanol iawn o’r Arlywydd, yn ddisgybl mewn crys gwyn yn Ysgol George VI, yn y dyddiau cyn y chwyldro a newidiodd bopeth ar yr Ynys Sbeis.

I ddau ddyn, gan gynnwys deintydd a hyfforddodd yng Nghaerdydd,  mi allai’r llun yna fod yn allweddol o ran dyfodol y wlad, sydd, mewn gwirionedd, yn glwstwr o ynysoedd tua phedair awr ar gwch o dir mawr Affrica.

Dw i yma’n rhan o griw o gwmni teledu Green Bay, sy’n gwneud cyfres o raglenni am ynysoedd ar gyfer S4C a’r farchnad ryngwladol.

Rhaglen am y wlad a dyfodol ei phobol fydd honno, yn llawn o luniau trawiadol a straeon personol cryf, ond wrth i ni deithio o le i le, mae yna stori wleidyddol ddiddorol wedi dod i’r wyneb hefyd.

Am y tro cynta’, mae gan Zanzibar lywodraeth cenedlaethol yn cynnwys y ddwy brif blaid fawr; am y tro cynta’ ers hanner canrif a mwy, mae wedi cael etholiadau heb ladd  a thywallt gwaed. Mae rhai’n gweld gobaith newydd … a chyfle ola’.

Arlywydd Zanzibar yn annerch y dyrfa ar Ddydd y Chwyldro.

Y cefndir

Felly … tamed o gefndir.

Mae yna ddwy brif ynys – Ujunga, sydd fel rheol yn cael ei galw’n Zanzibar, a Pemba.

Fel Cymru, mae Zanzibar yn rhan o undeb mwy – gyda’r tir mawr. Ym mis Ebrill 1964, mi gafodd yr ynysoedd eu huno efo Tanganyika i greu Gweriniaeth Tanzania.

Mae yna ddwy brif blaid – y CCM, plaid yr undeb efo Tanzania,a’r un sydd wedi rheoli’n gam neu gymwys ers 35 o flynyddoedd; a’r CUF sy’n gryf ar ynys Pemba ac ymhlith yr Arabiaid sy’n rhan bwysig o’r boblogaeth.

Yr Arabiaid oedd yng nghanol y digwyddiad mwya’ ysgytwol yn hanes diweddara’ Zanzibar – y chwyldro pan gafodd miloedd o Arabiaid ac Indiaid mwy cyfoethog eu lladd gan wrthryfelwyr Affricanaidd.

Mae rhai o’r straeon fydd ar y rhaglen yn dangos fod ofn o hyd i drafod y chwyldro hwnnw ond dathlu hwnnw yr oedd Dr Shein a’i gefnogwyr wythnos yn ôl. Ionawr 12 ydi diwrnod y chwyldro.

Doedd y deintydd a’i ffrind ddim yno. Roedden nhw wedi gwrthod mynd. A nhwthau ymhlith y miloedd a adawodd y wlad yn sgil y chwyldro, allen nhw ddim stumogi dathlu digwyddiad o’r fath.

Ond mae Hassan Jaffer a Dr Feroz Jafferi, a fu’n hyfforddi yng Nghaerdydd, yn ôl yn Zanzibar ar ôl helpu i sefydlu mudiad o’r enw Outreach Zanzibar, efo’r bwriad o gael cymorth yr alltudion i roi’r wlad yn ôl ar ei thraed.

Mae digon o angen hynny. Tua doler y dydd ydi incwm y rhan fwya’ o’r tlodion tra bod elît o bobol yn cael bywydau moethus iawn. Mae cyflwr addysg ac iechyd, medden nhw, yn waeth o lawer bellach na chyn 1964.

Un o’r arfau sydd gan y ddau, a ddaeth ar draws ei gilydd ar ôl 44 o flynyddoedd, yw eu bod ill dau’n gyn-ddisgyblion yn Ysgol George VI a bod yr Arlywydd yno hefyd. Gan Hassan Jaffer y mae’r llun i brofi hynny ac maen nhw eisio’r cyfle i’w ddangos i Dr Ali Muhammed Shein.

Y ddau alltud o Zanzibar yn ôl yn eu hen wlad.

Y cyfle ola’

Mi fydd y rhaglen deledu’n dangos rhai o’r cynlluniau bach a’r bobol benderfynol sy’n ceisio creu cyfleoedd newydd, ond mae’r angen am newid sylfaenol yn anferth, yn enwedig yn y byd gwleidyddol.

Ond ar ôl siarad efo cyn gyd-ddisgyblion eraill o Ysgol George VI erstalwm, sydd bellach yn uchel yn y Llywodraeth, mae’r ddau ddyn wedi dechrau gobeithio am well. Maen nhw’n credu, efallai bod yr arweinwyr yn gweld bod angen newid hefyd.

Ddiwedd mis Hydref, roedd yna fwyafrif clir yn y wlad wedi pleidleisio tros gael Llywodraeth Genedlaethol sy’n uno’r ddwy blaid. Er bod amheuon am fuddugoliaeth y CCM yn yr etholiadau a ddilynodd ym mis Rhagfyr, mae’r blaid arall am y tro cynta’ wedi cael tua thraean o’r swyddi yn y llywodraeth.

Ond mae gan y ddau ddyn rybudd hefyd – a nhwthau’n 64 oed ac ymhlith y genhedlaeth ola’ o alltudion y chwyldro, does dim llawer o flynyddoedd ar ôl i ddefnyddio sgiliau rhai fel nhw i roi’r wlad yn ôl ar ei thraed.

Mae’r iaith Swahili, a ledodd o Zanzibar tros ran helaeth o Ddwyrain Affrica, yn llawn o ddywediadau lliwgar. Ac mae Hassan Jaffer yn eu dyfynnu nhw’n aml.

Dyma un: Yr amser gorau i blannu coeden mango ydi ugain mlynedd yn ôl; yr amser gorau wedyn ydi heddiw, er mwyn i genhedloedd y dyfodol gael y cynhaeaf.