Pan mae datganiad i’r wasg yn dechrau gyda “OMG! Cer i Pleidleisiwch2011 :) “ mae’n anodd peidio â ChAYU. Mae’r neges yn un go bwysig, mae Comisiwn y Cynulliad ar dasg ar hyn o bryd i sicrhau bod ieuenctid Cymru’n dod mas i bleidleisio yn y refferendwm pwerau, refferendwm AV ac yn etholiad y Cynulliad. Pobol 18-35 maen nhw’n eu targedu, gan geisio darbwyllo’r braced oedran hwn eu bod nhw’n pleidleisio bob dydd wrth wneud dewisiadau gwahanol -reis neu chips, Inbetweeners neu Skins, X-Factor neu Strictly, Pobol y Cwm neu Rownd a Rownd, Caryl neu Dafydd…..

Nawr, fel rhywun sy’n dod o fewn yr oedran targed, rwy’n gweld hyn braidd yn nawddoglyd. Efallai mod i bach yn od ond rwy’n dwli ar bleidleisio. Wastad wedi. Siom fawr i fi oedd bod yn rhy ifanc i bleidleisio yn Refferendwm 1997. Rwy gyda’r cyntaf ym mlwch pleidleisio y clwb bowls lleol gyda fy ngherdyn pleidleisio, beth bynnag fo’r etholiad, ac yn rhyfeddu nad yw pawb arall yr un peth. Mae’r gwersi hanes ar Emmeline Pankhurst yn amlwg wedi cael cryn effaith arna i!

Ond beth ych chi’n meddwl o rhain? Fydden nhw’n eich denu chi i bleidleisio?