Llys y Goron Caerdydd
Mae dyn a adawodd 2,000 tunnell o wastraff ar dir ym Morgannwg wedi ei garcharu am 10 mis.

Fe wnaeth Michael Hendy, 49 oed ac o’r Barri, wneud elw o £60,000 ar ôl gadael gwastraff, a oedd yn cynnwys pren a hen fatresi gwely, ar stad ddiwydiannol yn Llandŵ, ger Y Bont-faen.

Yn ôl Cyfoeth Naturiol Cymru, y corff sy’n gwarchod yr amgylchedd, cafodd y gwastraff ei ddarganfod yn 2014.

Roedd darnau o bren hyd at 30 troedfedd o uchder mewn mannau, a hen fatresi yn llenwi warws o’r llawr i’r to.

Ychwanegodd y corff amgylcheddol y bydd clirio’r matresi o’r safle  costio hyd at £52,000 i’r trethdalwr.

Clywodd Llys y Goron Caerdydd bod Michael Hendy, ynghyd â dau arall, sef Victor Keseru a Nathan Thomas o Benybont ar Ogwr, wedi gadael y gwastraff ar dir nad oedd yn berchen iddyn nhw.

Cafodd Michael Hendy ei ddedfrydu i 10 mis o garchar, ac fe gafodd y ddau arall eu carcharu am chwe mis yr un.