Mae'r Comisiynydd Plant, Sally Holland, yn cefnogi'r ymgyrch newydd.
Gyda dim ond 4% o ymladdwyr tân Cymru a chwarter ein cynghorwyr sir yn ferched, mae ymgyrch yn cael ei lansio yng Nghaerdydd heddiw i geisio sicrhau “cydraddoldeb rhyw”.

Fe gafodd menter gymdeithasol y Girls Circle ei sefydlu’r wythnos hon i gyd-fynd â Diwrnod Rhyngwladol y Ferch, oedd echdoe.

Bwriad y fenter yw creu cymdeithas sy’n trin merched yn fwy teg ac yn llwyfan iddyn nhw fynegi eu safbwyntiau.

Mi fydd dros 200 o ferched yn lansio’r fenter yn y Senedd yng Nghaerdydd heddiw, gan drafod nifer o broblemau sy’n wynebu merched yng Nghymru gan gynnwys diffyg esiamplau neu role models.

Yn ôl y Comisiynydd Plant Sally Hollander fe fydd yr ymgyrch yn “cefnogi, grymuso ac ysbrydoli genethod ym mhob man i fynnu eu hawliau”.

Daw’r ymgyrch newydd i fodolaeth yn sgîl ymchwil a wnaed gan Girls Circle ei hun sy’n dangos bod 90% o 800 o ferched 14 i 21 a gafodd eu holi, yn teimlo nad ydyn nhw’n cael digon o gefnogaeth.

Mae Girls Cirlce hefyd yn bwriadu edrych ar broblemau eraill sy’n effeithio ar ferched, megis bwlio a phroblemau iechyd meddwl.

A’r gobaith yw cynnal adolygiadau blynyddol a fydd yn edrych os ydy sefyllfa merched Cymru yn gwella.