Dai Lloyd, Cadeirydd y Pwyllgor (Llun - Cynulliad Cenedlaethol CCA2.0)
Mae angen “newid sylweddol” wrth gael clystyrau o wasanaethau meddygon teulu i weithio gyda’i gilydd, yn ôl un o bwyllgorau’r Cynulliad Cenedlaethol.

Does dim llawer o dystiolaeth bod yna “unrhyw fanteision gwirioneddol” i greu’r clystyrau, medden nhw ac mae angen i’r llywodraeth osod “cyfeiriad cliriach”.

Er bod yna gefnogaeth i’r syniad, mae’r pwyllgor yn dweud bod y clystyrau hyd yn hyn wedi methu â lleihau’r baich ar feddygon o ddydd i ddydd.

Prif alwad y pwyllgor yw fod angen sicrwydd arian tymor hir i’r clystyrau a mwy o allu i weithredu ac ymateb yn gyflym.

‘Lleddfu pwysau’

Mae yna 64 ‘clwstwr gofal sylfaenol’ yng Nghymru, sef grwpiau o feddygfeydd a gwasanaethau eraill, sy’n darparu gwasanaethau i gymunedau lleol.

“Un rheswm allweddol y tu ôl i greu clystyrau gofal sylfaenol yw lleddfu pwysau ar feddygon teulu ac ar ein hysbytai trwy gadw gwasanaethau iechyd hanfodol yn fwy lleol  yng nghymunedau pobl,” meddai Cadeirydd y Pwyllgor, Dai Lloyd.

“Ond ychydig yn unig o dystiolaeth sydd i ddangos bod hyn yn digwydd ar draws 64 o glystyrau Cymru.

“Rydym o’r farn bod angen newid sylweddol gan Lywodraeth Cymru i ddarparu cyfeiriad cliriach ar gyfer byrddau iechyd a gweithwyr proffesiynol gofal sylfaenol i sicrhau bod y gwasanaethau cywir yn cael eu darparu yn yr ardaloedd cywir yn y ffordd gywir.”

Argymhellion gan y Pwyllgor

  • Dylai llywodraeth Cymru newid gwedd a ffurf y ‘clystyrau’
  • Dylai bod y ‘clystyrau’ yn derbyn cyllid pob tair blynedd (yn hytrach nag yn flynyddol)
  • Mae angen dull gwell o astudio effaith y ‘clystyrau’

Ateb y Llywodraeth – “Gofal safon uchel”

“Rydym wedi darparu £10 miliwn i gynorthwyo gwaith gofal sylfaenol clystyrau,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.

“Mae’r cyllid yma yn helpu meddygfeydd, byrddau iechyd a threfnwyr gwasanaethau i gydweithio trwy ddarparu gofal iechyd safon uchel ar lefel leol.”