Llundain (Llun: Colin a Kim Hansen Wikipedia Commons CCA 4.0 Rhyngwladol)
Mae Maer Llundain, Sadiq Khan, wedi annog y corff sy’n gyfrifol am drafnidiaeth yn y ddinas, i gyfarfod â phennaeth cwmni Uber yn sgil ymddiheuriad gan y cwmni.

Gwrthododd corff Trafnidiaeth i Lundain (TfL) ag adnewyddu trwydded y cwmni ar ddydd Gwener (Medi 22) am resymau’n gysylltiedig â “diogelwch y cyhoedd.”

Mae Uber wedi mynnu y byddan nhw’n apelio yn erbyn y penderfyniad, ond mae Prif Weithredwr y cwmni, Dara Khosrowshahi, yn derbyn eu bod wedi “gwneud camgymeriadau.”

“Dw i’n croesawu’r ymddiheuriad gan Dara Khosrowshahi,” meddai Sadiq Khan. “Er bod prosesau cyfreithiol ar waith, dw i wedi gofyn i TfL i sicrhau eu bod ar gael i gyfarfod ag ef.”

Uber

Gwasanaeth tacsi yw Uber sydd yn gweithio trwy ap digidol, ac sy’n ddibynnol ar yrwyr sydd yn defnyddio eu ceir eu hunain.

Mae TfL wedi nodi sawl mater wnaeth gyfrannu tuag at eu penderfyniad i beidio ag adnewyddu trwydded y cwmni – ymysg rhain mae’r modd mae Uber yn ymdrin â throseddau staff.

Mae dros 740,000 o bobol wedi arwyddo deiseb ar-lein yn erfyn ar TfL i wrthdroi eu penderfyniad.