Mae Prif Weinidog Japan wedi galw etholiad brys fis nesaf ac fe fydd yn rhyddhau aelodau’r senedd ddydd Iau yr wythnos hon, er mwyn mynd allan i ymgyrchu.

Roedd tymor y Prif Weinidog, Shinzo Abe, i fod i ddirwyn i ben y flwyddyn nesaf, ond mae wedi galw etholiad flwyddyn yn gynnar, ar Hydref 22. 

Mae arbenigwyr yn rhagweld y gall ei blaid, Plaid y Democratiaid Rhyddfrydol, gynnal mwyafrif ond mae peryg i’r blaid sydd mewn clymblaid â nhw, Komei, golli grym.

Mae adroddiadau fod Shinzo Abe wedi galw’r etholiad er mwyn creu mandad newydd i ddelio ag “argyfwng cenedlaethol” yn sgil bygythiadau o Ogledd Corea.

Fe ddirywiodd y gefnogaeth i Shinzo Abe i 30% dros yr haf o ganlyniad i gyfres o bolisïau amhoblogaidd a honiadau am sgandalau, ond fe gododd y gefnogaeth yn ôl i 50% wedi hynny.

Mae disgwyl y bydd hefyd yn wynebu gwrthwynebydd newydd yn yr etholiad wedi i Lywodraethwr Tokyo, Yuriko Koike, gyhoeddi ei bod yn ffurfio plaid wleidyddol genedlaethol newydd o’r enw Hope Party.