Bydd cynllun ynni adnewyddadwy yn Ynys Môn yn derbyn hwb gwerth £4.5m gan yr Undeb Ewropeaidd a Llywodraeth Cymru.

Bydd yr arian yn mynd tuag at gynllun Morlais Menter Môn, sef prosiect £5.6m i ddatblygu technoleg ynni llanw yn y sir.

Ar ôl derbyn caniatâd llawn mi fydd y prosiect yn medru cynhyrchu o leiaf 20MW o ynni ar gyfer y grid cenedlaethol – gyda photensial ar gyfer 193.5MW arall.

Yn ôl gwefan Cyngor Sir Ynys Môn, nod y cynllun yw i “sefydlu Ynys Môn fel hwb ynni arforol” ac i sicrhau “ffyniant economaidd” yno.

“Ymdrechion byd-eang”

“Dyma newyddion ardderchog,” meddai Gerallt Llewelyn Jones ar ran Menter Môn. “Mae Menter Môn wedi gweithio’n galed i gyrraedd y garreg filltir hon ar gyfer Ynys Môn a’r Gogledd.

“Mae’n hanfodol ein bod yn rhoi’n hunain yng nghanol yr ymdrechion byd-eang i ddatblygu ynni adnewyddadwy’r môr, sector sy’n tyfu ac sydd â photensial mawr i greu a chynnal swyddi.”

Daw £4.2 miliwn o’r cyllid gan yr Undeb Ewropeaidd, a £300,000 gan Lywodraeth Cymru.