Edrych nôl gawson ni gan y Llywodraeth yn y briffing bore ma, wrth i Carwyn Jones a Ieuan Wyn Jones fynegi -gyda rhywfaint o nostalgia -mai dyma o bosib y briffing ar y cyd olaf o’r Llywodraeth hon. Maen nhw’n falch iawn o’u record ac yn brolio i gytundeb Cymru’n Un gynnig llywodraeth sefydlog, yr hyn oedd pobol Cymru’i eisiau er efallai nid cymaint aelodau’r blaid Lafur. Ond newidwyd eu meddwl, gan gynnwys neb llai na un o’r gwrthwynebwyr pennaf Peter Hain.

O edrych nôl, rhaid edrych ’mlaen a meddwl -ai Cymru’n Un x2 ddaw wedi etholiad y Cynulliad? Ateb cyson Carwyn Jones yw bod Llafur, fel y pleidiau eraill, yn chwilio am fwyafrif fis Mai a fydd dim trafod clymbleidio tan ar ôl canlyniad etholiadol fydd yn gorfodi hynny. Llafur wrth gwrs yw’r unig blaid ag unrhyw obaith o gael mwyafrif . Gyda’r arolygon barn ar 44% o blaid Llafur ers misoedd bellach, mae’n bosibl y gall Llafur ddychwelyd 30 a mwy o aelodau i’r Cynulliad eleni. Fe fydd y tebygolrwydd o glymblaid yn is y mwyaf o aelodau fydd gan Lafur. Er bod 31 yn fwyafrif, dyw e ddim yn ddigon i sicrhau sefydlogrwydd.

Wrth gwrs er mwyn bod yn bartner mewn llywodraeth fe fydd y pleidiau eraill yn gobeithio’n fawr na fydd Llafur yn cyrraedd yn agos at y 30 hudol. Y cwestiwn i’r ddau arweinydd llywodraethol gan gyfaill o’r lobi bore ma oedd -ydych chi’n diystyru’r posibilrwydd o glymblaid â’r Ceidwadwyr? Doedd Carwyn ddim am oedi cyn dweud bod hynny’n hollol amhosibl. Ieuan ar y llaw arall -wel, byddai hi’n anodd yn dilyn rhaglen y Ceidwadwyr yn San Steffan i glymbleidio â nhw oedd ei ateb e.

Mae’n amlwg mai ail ddewis go anghynnes i Blaid Cymru fyddai rhoi cyfle i glymblaid yr enfys, gyda llawer mwy o frwdfrydedd i glymbleidio â Llafur eto pe bai’r cyfle’n codi. Ond roedd Nick Bourne yn hapus fodlon i ddweud ei fod ef a Ieuan yn ffrindiau da a bod gwleidyddion weithiau yn dweud rhai pethau’n gyhoeddus nad ydyn nhw o reidrwydd yn ei golygu go iawn. Fyddai Nick Bourne ddim yn synnu pe bai Ieuan Wyn Jones wedi dweud rhywbeth cyffelyb am glymbleidio â’r Ceidwadwyr nôl yr adeg hon yn 2007 hefyd ac eto roedd Clymblaid yr Enfys yn bosibilrwydd go iawn wedi etholiad y flwyddyn honno.

Holodd neb Kirsty Williams bore ma beth fyddai ei dewis cyntaf hi mewn clymblaid. Gyda’r arolygon barn a’r sylwebwyr yn darogan gwae i’r Democratiaid Rhyddfrydol, efallai nad yw hi’n syndod.