Mae pryderon am ddyfodol canolfan yrru Aberystwyth a fydd yn cau ddiwedd y mis.

Fe allai pobol o ardal Aberystwyth orfod teithio i Lanbedr Pont Steffan, Aberteifi neu i’r Drenewydd i sefyll eu prawf gyrru yn y dyfodol.

Daw hyn wrth i’r ganolfan sydd wedi’i lleoli yn yr Hen Ysgol Gymraeg yn Aberystwyth gau ar Fedi 27 er mwyn gwneud lle i’r safle gael ei datblygu yn sgwâr o lefydd bwyta.

Mae cynlluniau i symud y ganolfan i glwb pêl-droed Aberystwyth sydd gerllaw, ond does dim manylion wedi’u cyhoeddi eto ynglŷn â hynny.

Mewn datganiad dywedodd llefarydd ar ran yr Asiantaeth Safonau Gyrwyr a Cherbydau (DVSA) eu bod yn “gweithio at sicrhau safle arall ar gyfer profion gyrru a byddwn yn cyhoeddi hyn mor fuan ag sy’n bosibl.”

Mae tua 25 milltir rhwng Aberystwyth a Llanbed a thua 40 milltir yr un rhwng Aberystwyth ac Aberteifi a’r Drenewydd.