Mae tân mewn ysgol ym mhrifddinas Malaysia, wedi lladd 24 o bobol – y rhan fwya’ ohonyn nhw’n bobol ifanc yn eu harddegau.

Roedden nhw wedi’u dal yn gaeth y tu ol i farau ffenestri, ac yn methu dianc oherwydd bod drws tân wedi’i rwystro, yn y rhan o’r adeilad lle’r oedden nhw’n cysgu.

Fe gafodd ymladdwyr tân eu galw am 5.41yb, ac fe gymrodd hi awr iddyn nhw ddiffodd y fflamau a gynheuodd ar drydydd llawr yr adeilad yn Kuala Lumpur.

Mae’r awdurdodau wedi cadarnhau fod o leiaf 24 o gyrff wedi’u tynnu o’r adeilad – 22 ohonyn nhw’n fechgyn rhwng 13 ac 17 oed, a dau yn athrawon.

Fe gafodd 14 o ddigyblion eraill, a phedwar o athrawon, eu hachub o’r adeilad. Mae chwech o’r rheiny wedi’u cludo i’r ysbyty, mewn cyflwr difrifol.

Y gred ar hyn o bryd yw mai nam trydanol achosodd y tân.