Mae Cymdeithas yr Iaith yn galw am ehangu hawliau iaith yn sgil y ffrae iaith rhwng Mike Hedges, yr Aelod Cynulliad dros Ddwyrain Abertawe, a Banc Lloyds.

Roedd y banc wedi gwrthod derbyn llythyr UCAS yn Gymraeg wrth i’w ferch geisio agor cyfrif banc fel myfyrwraig.

Mae Catrin Hedges ar fin mynd i Brifysgol Bangor i astudio Cymraeg a Cherddoriaeth.

Dywedodd Mike Hedges wrth golwg360 fod y banc wedi dweud wrtho mai eu polisi yw “peidio â derbyn dogfennau yn Gymraeg”, a bod rhaid cyflwyno’r ddogfen yn Saesneg cyn y câi ei ferch agor y cyfrif newydd.

Ond wrth ymateb, dywedodd llefarydd ar ran Banc Lloyds wrth golwg360 mai “dryswch” oedd wedi arwain at wrthod y ddogfen, ac y bydden nhw’n rhoi canllawiau clir i’w staff ar unwaith ynghylch ymdrin ag ymholiadau yn Gymraeg.

‘Ymddygiad y banc yn gwbl annerbyniol’

Wrth ymateb i’r ffrae y prynhawn yma, dywedodd is-gadeirydd grŵp hawl Cymdeithas yr Iaith, David Williams fod “ymddygiad y banc yn gwbl annerbyniol”, gan alw am ehangu hawliau iaith i weddill y sector breifat, gan gynnwys y banciau.

“Mae ymddygiad y banc yn gwbl annerbyniol.

“Mae’n eironig bod Aelod Cynulliad Llafur yn dioddef o bolisi ei Lywodraeth ei hun.

“Cwta wythnos yn ôl, cyhoeddodd y Gweinidog Llafur Alun Davies bapur gwyn yn datgan nad oedd e’n bwriadu estyn y ddeddfwriaeth iaith i fanciau.

“Unwaith eto, mae gyda ni Lywodraeth Lafur yn amddiffyn y bancwyr yn lle pobol Cymru.”