Mae cwmni banc Lloyds wedi ymddiheuro am “ddryswch” ar ôl i’r Aelod Cynulliad dros Ddwyrain Abertawe gael ei gythruddo gan eu “polisi” o wrthod ffurflenni Cymraeg.

Roedd Catrin, merch Mike Hedges, am agor cyfrif banc newydd fel myfyrwraig ar ôl cael ei derbyn i astudio Cymraeg a Cherddoriaeth ym Mhrifysgol Bangor.

Roedd ganddi gyfrif cyfredol gyda’r banc eisoes.

Ond gan fod ei llythyr UCAS yn Gymraeg, roedd cangen Abertawe o’r banc yn gwrthod ei dderbyn fel dogfen er mwyn agor y cyfrif newydd, gan ddweud mai eu “polisi” yw peidio â derbyn dogfennau yn Gymraeg.

Camau pellach

Dywedodd Mike Hedges wrth golwg360 y byddai’n mynd â’r achos ymhellach, a’i fod yn barod i droi at Gomisiynydd y Gymraeg a Llywodraeth Cymru.

“Dw i’n bwriadu mynd at y banc ac at Gomisiynydd y Gymraeg oherwydd, er nad yw banciau’n rhan o waith Comisiynydd y Gymraeg, dw i’n credu y dylai hi leisio ei barn.

“Dw i hefyd yn bwriadu mynd at Lywodraeth Cymru.”

‘Arweiniad cywir’

Ar ôl i golwg360 ofyn am ymateb, dywedodd llefarydd ar ran Banc Lloyds: “Rydym yn ymddiheuro am y dryswch yn y mater hwn.

“Rydym yn cydnabod cynigion UCAS yn y Gymraeg, ac mae gennym nifer o aelodau staff sy’n ymdrin â’r cyhoedd sy’n gallu siarad Cymraeg.

“Rydym yn cymryd camau ar unwaith i sicrhau bod ein holl gydweithwyr yn ymwybodol o’r canllawiau cywir.”