Mae’r heddlu wedi apelio o’r newydd am wybodaeth am ddyn 54 oed sydd ar goll o Borthcawl.

Dydy Daniel Glyndwr Owen ddim wedi cael ei weld ers tua 9.45 fore dydd Gwener, pan oedd e ym maes parcio Hillsborough y dref.

Disgrifiad

Dydy ei ddiflaniad ddim yn nodweddiadol o’i gymeriad, meddai’r heddlu, sy’n gofidio amdano.

Mae e’n 5’7″ a chanddo fe wallt a barf brown sy’n llwydo.

Roedd e’n gwisgo top du a llwyd ac esgidiau glas pan aeth e ar goll.

Mae ganddo fe datŵ o adar ac esgyrn ar ei fraich dde a dannedd gosod ond dydy hi ddim yn glir a oedd e’n eu gwisgo nhw pan aeth e ar goll.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101.